Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac esgyrn. Daliwyd hi, a gosodwyd hi mewn llestr, ac aethpwyd ati i'w lladd. Ceisiwyd ei boddi, a gwingai yn anhywaeth yn y dŵr; eithr yn y man trodd ei chynffon at ei chorff a brathodd ei hun a'r colyn sydd ganddi yn ei chynffon. Trengodd, a chroesodd ei hysgerbwd y Werydd yn yr un llong a ninnau, ac y mae bellach wedi ei dangos i lawer o gyfeillion.

Aethom i'r llythyrdy yn Jamaica yn fuan wedi cyrraedd yno, a gofynasom am stamp ceiniog. Mawr oedd ein syndod pan estynwyd i ni ddarlun bychan of raeadr fynyddig, ac yn argraffedig arni— "Llandovery Falls." Gwyddem am dref yr Hen Ficer yn dda. Yn ei hymyl y gwelsom oleu ddydd gyntaf; ond ni wyddem am yr olygfa hon ar un o'i hafonydd, a bu raid i ni holi y ferch ddu a estynodd y stamp beth olygai "Llandovery Falls." Dywedodd fod yno stâd ac afon yn dwyn yr enw ar yr ynys, a thebygem, yng ngwyneb absenoldeb unrhyw dystiolaeth i'r gwrthwyneb, mai gwr o sir Gaerfyrddin roddodd yr enw hwn ar y lle.[1]

  1. Bu i Gymry sir Gaerfyrddin ran helaeth iawn yn hanes dyddorol ynys Jamaica. Gweler ysgrifau Mr. W. Llywelyn Williams yn y Cymmrodor ar Henry Morgan a theulu'r Gelli Aur