Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ym Medi 1903 ymwelodd storm o ruthrwynt ofnadwy ag un ochr o ynys Jamaica. Duodd yr awyr ar ol oriau o wres bron anioddefol, a disgynnodd y gwynt fel byddin ymosodol o elfennau digofus. Yr oedd ei ruthriadau yn arswydol; plygai y coed fel brwyn; lluchiai y tai o gwmpas fel teganau; dinystriwyd llawer o gapelau, ac yr oedd y meusydd siwgr a phlanhigfeydd bananau yn gydwastad a'r llawr. Yn ol troed y gwynt daeth cawodydd o wlaw trwm; ac ar lawer llechwedd gwelsom arwyddion o'r ymweliad rhyfedd—ymweliad a barodd ddychryn a cholled nas gellir ei hennill yn ol yn ystod blynyddoedd lawer.

Heddyw, ar ol tair blynedd, cyrhaedda newydd am ddaeargryn ddifrifol o ddinas Kingston. "Pedwar cant wedi eu lladd; wyth cant wedi eu niweidio; tân am filltir a chwarter: miloedd o negroaid yn meddwl fod diwedd y byd wedi dod; adeiladau heirdd yn adfeilion,"—dyna yw penawdau y newyddiaduron y dyddiau hyn, a gwelwn enw un ymysg y lladdedigion a fu yn garedig