Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrthym. Diau y bydd tlodi enbyd ymysg y rhai oeddynt dlawd eisoes, ond ni wneir apel at y fam-wlad heb agor o honi ei chalon mewn tosturi at ei phlant duon ar yr ynys hon ym moroedd y Gorllewin.

Ar y pumed dydd, er mwyn ysgoi y gwres, aethom i'r mynyddoedd; a syrthiodd ein coelbren ym Mandeville, tref fechan a saif yng nghanol plwyf Manchester, ddeg a deugain o filltiroedd o Kingston; ac yma y buom am bythefnos, o dan gronglwyd un o'r rhai caredicaf a gyfarfyddasom erioed. Ffermwr oedd gwr y ty. Tyfai goffi, orenau, lemonau, bananau, a chorsenau siwgr; ac yr oedd iddo was o'r enw Thomas. Pan elem yn ei gwmni ar draws y caeau, cerddai y gwas ymlaenaf, ac ar ol ein gilydd. cerddai y gwr oedd bia nenbren ein llety a ninnau. Rhaid oedd wrth y trefniant hwn, oherwydd yr ymlusgiaid fyddai ar y meusydd. Yn awr ac yn y man ymholai y meistr—" Any ticks, Tammas?" "No, massa," ebai hwnnw, ac ymlaen y teithiem fel cerbydres ac astell y signal yn cyhoeddi ffordd glir iddi; ond dylem ddweyd mai math o chwannen fawr a'i brath yn boenus oedd y tick. Heigient yn y glaswellt; ac os caent afael ar ein