Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

modrwyfilod hardded a pherlau drud o ran eu croen yn dringo muriau ein ystafell. Gwlad o fythol haf yw hi. Ni welodd ei mynyddoedd uchaf bluen o eira erioed; a diolchwn yn gynnes am gael gosod ein troed arni, ac am y cyfle i gael gweithio cymaint o'i hiechyd i'n pabell o bridd.