Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bellach yn difa y mongoose, meddai sylwedydd craff wrthyf un diwrnod.

Prif gynnyrch y wlad ydyw ffrwythau, siwgr, coffi, rum, coed at liwiau, perlysiau o bob math, chwaethrawn (pimento), sinsir, a choedydd drudion. Codir llawer o fyglys, nutmeg, grawnwin, a thê yno hefyd. Nid yw y cyflogau yn uchel; eithr gall y negro fyw yn rhad iawn yn rhy rad iddo orfod gweithio yn galed. Y mae natur yn darparu mor doreithiog ar ei gyfer ar y goeden ac yn y ddaear, fel nad oes egni mawr i weled yn ei ysgogiadau un amser. Yn ei ardd-wedi iddo oglais y ddaear-chwedl yntau, tyf tatws melus, a yam, a chou-chou, ac Indian Corn, a chassava ar gyfer ei fara, ac y mae yntau ar ben ei ddigon yn eu canol.

Ynys baradwysaidd ydyw Jamaica, ac oni bai am wres ei haul a dieithrwch ei choedydd a'i ffrwythau, gallem gael awgrym yn nhroadau ei ffyrdd, cilfachau ei bryniau, a noethder ei chreigiau, o'n hanwyl wlad ni. Y mae ei hawelon yn falmaidd; llwythir ei chwaon gan arogl perlysiau. Swynir ni gan ei phalmwydd, ond er tlysed plu ei hadar nid yw eu cân fel eiddo'r fwyalchen a'r fronfraith; a gwell gennym gysgu heb wybod fod