Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gydymaith, canys estynnodd ddarn o bapur i ni ar ein hymadawiad ac arno y geiriau awgrymiadol hyn,—

"Ships that pass in the night and speak each other in passing;
Only a signal shown, and a distant voice in the darkness;
So on the ocean of life, we pass and speak one another;
Only a look and a voice, then darkness again and a silence."

Y mongoose ydyw y creadur gwyllt mwyaf dyddorol yn Jamaica. Daw, fel y llwynog neu'r wenci, yn agos i'r tai, ac y mae yn lleidr digywilydd. Nid yw yn frodor o India'r Gorllewin. Affricaniad ydyw, a daethpwyd ag ef yma i glirio y pla llygod a boenai amaethwyr y siwgr, ac a barent gymaint colled. Lladdodd y llygod i gyd mewn rhai blynyddoedd, ac yna rhoddodd ei sylw i'r nadroedd; y mae yn difa y rhai hynny yn brysur; ac mewn canlyniad y mae y pryfed sydd yn fwyd i'r seirff yn cynyddu yn gyflym.

"Gwnaethost hwynt oll mewn doethineb," meddai'r Salmydd, a hawdd credu hynny. Er mwyn cadw y bydoedd o ymlusgiaid hyn yn eu lle, ac i fantoli eu gilydd yn briodol, y mae y pryfed hyn