Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai o fasnachwyr y lle, a buom yn y llys gwladol yn gwrando helynt rhwng Chinead a negro. Rhaid oedd iddynt gymeryd eu llw fod eu tystiolaeth yn wirionedd, a gofynnai swyddog i'r gwr o China sut y cymerai ei lw-trwy lyfr, trwy ddysgl, neu trwy dân? Atebai yntau, gan nad oedd yn Gristion, mai trwy dân; ac ar hyn cyneuwyd matsen o'i flaen a chwythai yntau y fflam allan. Arwyddai hyn ei fod yn tynnu difodiad ysbryd arno ei hun os nad oedd yn rhoddi tystiolaeth gywir. Pe bai o gred arall, byddai yn dryllio dysgl dê neu soser, i arwyddo y byddai yntau yn cael ei ddryllio os na ddywedai wirionedd.

Ymysg ein cyd-letywyr yr oedd hen foneddwr o'r America. Oerfel yr Unol Daleithau a'i gyrrodd belled o'i gartref; a chydag ef yr oedd boneddiges ieuanc raddedig yn un o'r ysbytai. Gwahoddodd ni yn gynnes i ymweled âg ef pe bai Rhagluniaeth yn ein harwain i ogleddbarth yr Amerig rywbryd, a sicrhaodd ni y byddai i ni groesaw. Dywedodd hyn droion, ac ymddanghosai yn cael blas ar ei ddweyd. Tarawodd ni wrth weled fyrred oedd ei gam, nad oedd dyddiau hir iddo; ac yn ddiau yr oedd y peth yn taro