"Doed yr Indiaid, doed barbariaid,
Doed y negro du yn llu," &c.
"Doed paganiaid yn eu t'wllwch,
Doed y negro dua'u lliw," &c.
Er mai dyfodiaid ydyw y negroaid, hwynthwy ydyw mwyafrif mawr trigolion Jamaica. Y mae yno lawer o Garibbeaid—preswylwyr cyntefig yr ynysoedd a gawsant eu difa o flaen y Spaniaid yn canrifoedd yr heigiai y moroedd hyn gan y fôr-ladron. Hefyd, y mae llawer o Indiaid melyn-groen i'w cael yn y tiriogaethau pellaf. Ond ceir y negro ymhob man, a hawdd ei adnabod oddiwrth asgwrn uchel ei wyneb, ei wefus dew, a'i wallt gwlanog. Siarada iaith perchennog ei wlad. Ffrancwr ydyw ym Martinique a Guadeloupe. Sieryd Saesneg yn Barbadoes a Jamaica; a chymysgedd o Ffrancaeg a Saesneg ydyw tafodiaith St. Lucia.
Cenedl a anwyd mewn un dydd ydynt. Ar ryddhad y caethion daethant i feddiant o freintiau a'u dyrchafodd i safle dynion am y tro cyntaf yn eu hanes; ac ar i fyny y maent yn myned mewn gwareiddiad, mewn addysg, a chrefyddoldeb. Llawer fu ymdrechiadau dyngarwyr i ryddhau y caethion ar hyd y blynydd-