Tudalen:Trwy India'r Gorllewin.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd, a chymerodd dymor hir i argyhoeddi cydwybod y gwledydd o bechadurusrwydd y fasnach mewn negroaid. Un o'r cyntaf i ddadleu hawl y dyn du oedd George Fox, sylfaenydd y Crynwyr. Granville Sharp fu yn foddion i gael gan y llywodraeth gydnabod y caethwas yn ddyn rhydd wedi gosod o hono ei droed ar yr ynys hon.

Yn Ebrill, 1791, cynhygiodd Wilberforce, yn Nhy'r Cyffredin, benderfyniad yn galw ar y Wladwriaeth i rwystro ychwaneg o gaethion gael eu dwyn i mewn i diriogaethau Prydain Fawr ym mhob rhan o'r byd. Collodd ei gynhygiad, ond ni lwfrhaodd Wilberforce. Cododd y mater yn ystod pob Senedd-dymor. Tua'r flwyddyn 1805 yr oedd y werin bobl yn gyffrous ar y cwestiwn; ac ym Mawrth, 1807, gorchymynnodd y Llywodraeth yr hyn a gynhygiwyd droion gan Wilberforce. Yr oedd dwyn ychwaneg o gaethion i unrhyw wlad lle chwifiai baner Prydain yn weithred a gosbid â dirwy drom. Ar ymneillduad Wilberforce, cymerwyd ei le fel amddiffynydd y negro gan Thomas Buxton. Ym Mawrth, 1823, daeth a chynhygiad gerbron y Senedd yn datgan fod caethwasiaeth yn