Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhwng henaint ac argraff ambell godwm a gefais yn fy ngorff, i'm coffau yn fynych.

Ymhen blwyddyn ar ol i mi ddyfod o'r Deheudir, mi a darewais wrth hen gariwr coed a fuasai gyda myfi lawer gwaith yn cydgario; ac yn yr Hand yn Rhuthin yr oeddym, gydag amryw eraill. Ond ar ryw ymddiddan, ebe fy nghyfaill wrthyf, Twm, yr wyt yn llawer gwannach nag oeddit pan oeddem yn cydgario coed." Minnau a atebais, fy mod yn meddwl nad oeddwn ddim gwannach; ac yn y cyfamser fe ddigwyddodd fod sacheidiau o wenith yn y neuadd honno, i fyned i Gaer gyda gwagen y cariwr; ac yr oeddynt â thri mesur ymhob sach. Mi a ddywedais os cawn dair sach ar y bwrdd, a'u clymu ynghyd, y cariwn hwynt yn ol ag ymlaen i'r ystryd; ac felly gwnaethum; ac fe ffaeliodd pob un arall oedd yno. A rhyw dro arall, pan oeddwn yng Nghaer, mi a godais faril o borter i ben ol y wagen o'r ystryd, o nerth cefn a breichiau. Mi a fum, dro arall, yn cario wyth droedfedd o bren derwen ar fy nghefn. A llawer o ryw wag wyrthiau felly a wnaethum, nad wyf ddim gwell heddyw.

Mae achos mawr i mi ystyried fy ffyrdd, ac ymofyn am Waredwr, gan nad allaf mo'm gwared fy hun, heb gael adnabyddiaeth o deilyngdod y Cyfryngwr, yn yr hwn gobeithio, y bydd i mi derfynu fy amser byr ar y ddaiar, yn heddwch Duw i dragwyddoldeb. Amen.

Hyn a ysgrifennais yn fy seithfed flwyddyn a thriugain oedran, Awst 1af, 1805.

THOMAS EDWARDS.