Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto



Tri Chryfion Byd.
A Mr. Di Fforcest, a Mr. Gwag ei Ffircen,
A Mr. Lled Lonydd, a Mr. Llwyd Wlanen.
A gwragedd lled hollawl, sef Madam Gown
Tyllog,
A Madam Bess Geglom, a Sian Bais Gaglog,
A Madam Oer Lewyrch. a Madam Warr Leuog,
A Madam Geunor Ddrewllyd, a Madam Gwen
Ddrylliog.

Gwared ni rhagoch gyda'ch rhigwm,
Onid ydych chwi rywsut, yn feistres ddi-
reswm ?
Gwae yn y byd fo danoch chwi'n byw,
'Ran caled ydyw'ch cwlwm.
Gwidd. 'Does un frenhines, hanes hynod,
Na brenin mewn dewrder, gymaint ei awdurdod,
'Rwy'n fwy dychrynadwy, 'n gwneyd i rai
och'neidio,
Nag un rhyfelwr a fu erioed yn trafaelio.
'Rwy'n gryfach na'r cornwyd, a'r llif mawr yn
Carno,
'Rwy'n gryfach na'r cestyll, fu amryw yn
costio,
'Rwy'n gryfach na'r tân, na'r crogbren, neu'r
tennyn,
Ran fe eir drwy bob niwed rhag tylodi a newyn.
Y cyfreithwyr a frathant, a gafaelant yn filen,
Ond ni fwy gen i am danynt nag am goes
rhedynen;
Er cyhyd eu gwinedd, a chymaint eu gwenieth,
Ni wnant ar dylodi ond ychydig 'deiladeth.
Tom. Mae gwyr cedyrn, âg aur i'w code,
Yn feistradoedd arnoch chwithe.