Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Wat Emwnt.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Almost a Methodist, one might say, sir. The most likely place for you to find him is at Cyfarthfa, I should say. I'm told they are going great guns there just at present."

Diolchodd Wat i'r Sais ac yna aeth yn ol i'r Fountain i edrych am Marged, ac wedi ymgomio ychydig eto â Mrs. Prydderch aeth y ddau allan am dro i'r dre cyn dychwelyd i'w llety yn y Green Dragon.

Ac â hwy yn tynnu at gyfeiriad y Watton gwelent dorf fawr tua chanol yr ystryd honno yn yr un lle ag y gwelsant un arall y diwrnod cyn hynny ar eu dyfod yn y coach mawr heibio.

Ar ofyn o Wat am esboniad am y cynhulliad deallodd mai y blasted Methodists oedd yno yn wir, a'u bod yn arfer mynychu'r lle fin hwyr.

Ar neshad o'r ddeuddyn at y dorf hwy a sylwent fod yno gyffro nid bychan ar y pryd am fod rhai o bobl fachgenaidd y dre ag awydd aflonyddu y pregethwr ieuanc. Hwnnw a ddaliai ymlaen yn wrol gan anwybyddu am beth amser y bechgynnos difoes. Ond o'r diwedd cymaint ydoedd eofndra y rheiny fel y mentrodd dau ohonynt ddringo i'r fen y tu ol i'r pregethwr gan aflonyddu yno.

Yr oedd Wat wedi sylwi ar hyn oll; ac wedi ei gynhyrfu drwodd, fe benderfynodd, delai a ddeuai, osod diwedd ar y peth. Felly gan adael ei briod yn y dorf ymwasgodd ymlaen at y gwatwarwyr ac a ddringodd yntau hefyd i'r fen. Ymddangosai am foment fel pe yn siarad â'r ddeuddyn ffol, ond y foment nesaf yr oedd wedi taro un ohonynt nes ei gwympo o'r fen i'r llawr. Yna gan gydio am y