Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Wat Emwnt.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XXIX.
Cysylltiadau, Hen a Newydd.

GANOL dydd drannoeth, gellid gweld cerbyd Nantmaden yn dychwelyd o'r dre drwy Lanfaes yn gynt nag arfer. Ynddo heblaw'r gyrrwr oedd dyn a dynes, a'r tri, a chyfrif nad oedd yr un ohonynt yn ieuanc iawn, yn afieithus dros ben.

Gadewch i fi weld," ebe Mr. Daniel Morgan, "fe fyddwn wrth Lanrhyd ymhen awr, ac fe gymer awr arall inni gyrraedd Clwyd y Mynydd. Mae'r Hen Binshwner wedi dweyd wrth bawb am eich d'od adre cyn hir, a rhaid fydd treulio peth amser gydag e'. Fe awn wetyn i Dafarn Cryw wa'th ma' William Lewis hefyd yn edrych mla'n at eich d'od sha thre. A ma' Twm Teil'wr, pŵr ffelo, wedi bod dan dipyn o gwmwl am iddo broffwydo'ch bod wedi'ch lladd."

Waratêg i Twm. 'Do'dd e' ddim ym mhell o'i le pe baech chi'n gwpod y cwbwl. Fe weta'r hanes rwpryd wrthoch ch'i, ond nid heddi'. Dydd llawen yw hwn i fod, ond iefa, Marged?"

Gwenodd Marged ei chydolygiad, ac yr oedd yn syndod gymaint o destynau llawenydd a fu y diwrnod hwnnw.

Aeth yr Hen Benshwner heibio iddo ef ei hun yn ei groesaw. "Welcome Home, Wat! Ie, jiawch i, a Welcome Dwpwl-ar-ucian he'd! Ble ma' Twm Teil'wr heddi', wn i? Gofelwch am 'ch dyn, Mrs. Edmunds, 'newch i? Fe ofala's i unwa'th na cha's e' ddim 'i saethu. Do myn jiawch i. Fe