Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Wat Emwnt.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Chlywa's i neb arall yn gweyd hynny ond y chi 'ch hunan."

"Mae'n eitha gwir, serch hynny. Ti wyddot nad o's genny' air ar lyfyr, nag un tylwythyn cefnog yn perthyn i fi 'chwaith. Er hynny ma' mryd i yrio'd ar dd'od yn werth arian. Llawer gwaith cyn i ti dd'od yma y buo i'n pysgota Hepsta er mwyn talu am docyn lotri, ond dda'th dim i'm ffordd i un amser. Dyna wâs Cilwiber ym Mlaenglyn, fe brynws e' docyn ac fe ga's fil o bunna' y tro cynta' y mentrws. Ond am dano i—blank bob tro. Wetyn fe wela's ddyn'on yn ennill llawer yn y pit, dyn'on dim gwell na finna' na chystal chwaith i 'napod deryn da. Ac, meddwn i wrth m' hunan, dim ond i fi ga'l 'chydig o'r atar o'r strain iawn, fe ddo'n berchen arian heb ofyn dim i neb. A phan oeddwn i bron wedi d'od i ben y ffordd, dyma mishtir a thitha'n pregethu byth a hefyd wrtho i. Dim ond unpeth eto sy'n ol i fi—wela i—mynd yn lleidr penffordd."

"P'id'wch â sôn, Wat, am hynny, da chi. Do's dim croci am wmladd c'il'ocod, ond os ewch chi'n hw-a-man, dyna ddiwedd arnoch chi, heb un os"

Weta's i ddim yr awn i, do fe? Ond mae'n ddicon i ala dyn, oti, myn asgwrn i. Wn i yn y byd a glywa' i rwpryd o'wrth y dandy hynny yn y Plough a gynhicws ddeg gini i fi am Beauty. Edrycha' hwnnw'n un a llycad at dderyn da, ta' beth, a ma' deg gini'n ddeg gini bob amser.'

"Eitha' gwir, ac fe'm tarews i fel gŵr caretig he'd un a fydda'n ofalus o greatur mud. Ond os ca' i ddweyd fy marn 'do'dd genny fawr golwg ar