Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Wat Emwnt.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pecock arall, dyn y 'demned fine bird.' Bach a fydda'm ffydd i yndo fe unrh'w amser.

"Ac a wyt ti'n cretu y bydda'r llall yn biwr i'r Beauty pe bawn i'n delio ag e'."

"'Do's genny' ddim ond 'y marn, wrth gwrs, ond fe fentrwn i arno fe yn well na'r llall, dyna gyd."

'Rwy'n cretu fel titha', ond, dyna—welwn ni byth m'honw nhw mwy,—wetyn beth dal whilia? Faint o'r gloch yw hi, wn i? Dyma fi'n mynd i 'sbio'r da.