haeaf o ddeall fod David Price y gwas penna (nid Dai bach bellach) wedi derbyn llythyr oddiwrth Wat Emwnt y gŵr y credai pawb ei lofruddio yn y dre gynt.
Darllenwyd ef i'r meistr a Mrs. Morgan yn y room yn gyntaf, ac yna gyda mawr hwyl i'r hen Fali a'r lleill yn y gegin wedyn. Dyma a ddywedai:
"Dear David,
I have thought many times I ought to rite you, and as I can do a bit of it myself now there is no excues for me not to do it. When I went to Brecon
8 years ago the pressgang got me and I have been a solder ever since, and out in this cruel war moast of the time. Thank God I am safe and sown through it all, for I dont think they will be fiting no more. I am a prisner since Yorktown.
I am treted well and it is hear I learned to read and rite. How is master and mistres. I hope they are alive and well as this leves me at presant. Dont rite back for I hope before long to come back myself. There is no cockfiting in America. With kind love to master, mistres, Mali and yourself.
Watkin Edmunds."
Y llythyr fu testun y siarad am ddyddiau ar ol hyn, a mwy nag un o hen gydnabod Wat, wedi gwybod am ei dderbyn, a alwodd "yn unig swydd yn Nantmaden" i'w glywed. Yr oedd Mali ar ei huchelfannau am fod ei henw hi ynddo; a chymaint oedd ei son hi am Wat fel y darfu i Forgan, henwas y Gelli, deimlo dipyn yn llidiog fod y ferch y bwriadai ef ei phriodi cyn gynted ag y caffent "le