bach" iddynt eu hunain, yn siarad o hyd a beunydd am y shawdwr, fel y galwai ef Wat.
A'r meistr ei hun, hyd yn oed, wedi gofyn ohono fenthyg y llythyr, a aeth ar daith arbennig, heb neges arall yn y byd, i'w ddangos i wr Tafarn Cryw.
Derdyshefoni, ddyn!" ebe hwnnw, "wel, dyma newydd o'r diwedd, a Thwm Teil'wr yn y ty hyn bwy noswa'th yn brygawthan y gallai e', pe b'ai e'n gwnstab, ddoti 'i law unrh'w ddydd ar y dyn 'i lladdws. Do's dim iws fod yn rhy siwr o ddim, nag o's wir, a hena' i gyd ma' dyn yn mynd, mwya' i gyd sydd i' ddysgu, 'weta' i. Yfwch lasa'd gyda fi, Mr. Morgan, er mwyn yr hen amsar. Rwy'n gw'pod nad y'ch chi'n arfer mynd i dafarn; ond heddi' ma' petha' mor od, a mor ansertannol ma' isha rhwpath ar hen fechgyn fel chi a finna' i'n catw ni'n gryf."
Nid oedd modd gwrthod ar y fath achlysur arbennig ac wedi yfed penderfynwyd y dylai Yr Hen Binshiwner yn y Glwyd gael clywed y newydd da hefyd. Ac am mai diwrnod i'r brenin ydoedd hi gan wr Nantmaden y dydd hwnnw, boddlonodd fyned gyda'r tafarnwr i Glwyd Tyrpig y Mynydd unwaith eto fel ag y gwnaeth wyth mlynedd cyn hynny.
"Ohoi!" ebe ceidwad y glwyd, "Be' sy'n bod heddi'? 'Dwy i byth yn 'ch gweld chi'ch dou gyda'ch gilydd nad o's rhwpath ma's o'r cyffretin yn dicw'dd."
"Mae felny heddi' ta beth," ebe'r tafarnwr.
"Darllenwch y llythyr iddo, Mr. Morgan!"
Hynny a wnaed, ac yr oedd yn amlwg fod Yr Hen Binshwner, fel yr ai y darllenwr ymlaen, yn