mynd yn gynhyrfus iawn. Mor gynhyrfus yn wir, fel y ffrwydrodd allan ar y diwedd," Fe wetas! Fe wetas! Dyna ddiwadd ar stori Twm Teilw'r am byth. 'Ro'dd hi'n bryd doti taw arno. Fe wn i am un case o leia, yn union 'run peth a hwn, pan o'wn i ma's gyda General Wolfe, slawer dydd, ond y Ffrensh o'dd wedi dala hwnnw. Twm Teil'wr yn wir! Be' wyr e' am shawdwyr? fu e' 'rioed ma's o'r cwm yma, a'i unig blan of campaign yw ffordd ma' ca'l y peint nesa'!"
Ni wyddis i ba aruchelion y dygai atgofion Yr Hen Binshwner ef, ond ar y foment tynnodd y tafarnwr botel fechan allan o'i gob, ac ebe fe, Rho gwpan neu ddou i fi, 'nei di, a gad Wolfe yn llonydd am dipyn bach. Dipyn o ddwr he'd."
Ac yno, gylch y bwrdd crwn, yfwyd "Iechyd Da" i Wat Emwnt, a Rhwydd Hynt " iddo ddychwelyd i'w wlad, gan y tri, gyda'r Hen Binshwner yn wlatgar iawn yn atodi God save the King.
Yr un prynhawn, ac yn yr un ysbryd rhadlon cododd Daniel Morgan, meistr Nantmaden, i'r mynydd wrth Waun y Gatar er cyrchu ei gartre'n brydlon.
A'r un noswaith gofynnodd i'w was i ddarllen iddo unwaith eto ei hoff Salm, sef yr hon a gymell i "foli'r Arglwydd, oherwydd Ei drugaredd tuag at feibion dynion."