Tudalen:William-Jones.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Na nhw!" meddai Twm. "Whîl a sprag bob un, bachan! 'Na chi fechgyn!" Ac i ffwrdd ag ef ar eu holau, gan ddweud bod ganddo gefnder yn canu yn y côr. Eglurodd Crad mai coler big a bwa du oedd "whîl a sprag."

Yng Nghalfaria, capel mwyaf y lle, y cynhelid y cyngerdd, a chodasid yno lwyfan uwchben y Sêt Fawr. Gwyliodd William Jones y côr yn cerdded i'r llwyfan, pob un â'i "whîl a sprag" a'i ddillad tywyll. Pwy a feddyliai'r rhai hyn oeddyn' nhw? Mr. Rogers oedd y llywydd, ac wedi iddo offrymu gweddi fer, gwahoddodd y côr a'r gynulleidfa i ymuno i ganu emyn. Caeodd William Jones ei lygaid i wrando ar y môr o gân a godai o'i amgylch ac o'i flaen; ni chlywsai ef ei debyg erioed. Edrychodd o'i gwmpas ar y bobl, ar osgo eiddgar eu cyrff ac ar y disgleirdeb a oedd yn eu llygaid, gan ryfeddu bod cân yn eu deffro drwyddynt fel hyn. Ac yr oedd yn y gynulleidfa liaws mawr o bobl ifainc-yn addoli mewn moliant. Onid oedd acw, ym mlaen y galeri, rai o'r bechgyn a welsai'n cychwyn ar eu beiciau yn y bore?

"Diawch, maen nhw'n edrach yn dda," sibrydodd Crad wedi iddynt eistedd.

"Pwy?"

"Y côr. Dyna iti hogia', William!"

"O?" Ebychiad go ddifater oedd yr "O?" Yr oedd yn amlwg fod Crad wedi ei lyncu gan y Sowth a'i sŵn a'i ymffrost.

"Edrych arnyn nhw, mewn difri, mor lân a theidi ar y llwyfan 'na. Côr o gant a deugain, a 'does 'na ond rhyw hanner dwsin mewn gwaith. Dyna iti hogia?!"

Cyflwynodd Mr. Rogers y côr i'r gynulleidfa. Teimlai'n wylaidd wrth wneuthur hynny, meddai, gan wybod ei fod ym mhresenoldeb gwŷr dewr iawn, gwŷr a ddaliai i ganu yn yr ystorm. Un amcan i'r cyngerdd oedd cynorthwyo'r côr i deithio i fyny i'r Eisteddfod Genedlaethol, a gwyddai y dychwelent o Gaernarfon nid yn unig yn fuddugoliaethus ond â'u cân yn drysor yng nghof a chalon y rhai a'i clywsai. "They learn in suffering what they teach in song," meddai un awenydd wrth sôn am y beirdd, ac er cyni'r gaeaf a ddaethai dros y cymoedd hyn, rhyfeddai'r byd at felystra'u cerdd. Gallai ef ddychmygu'r dyrfa enfawr ym Mhafiliwn Caernarfon yn gwylio'r côr hwn o'r Rhondda Fach yn cerdded yn rheng o wŷr llwyd a lluddedig ar ôl cychwyn cyn torri o'r wawr