Tudalen:William-Jones.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu deall, cwestiynau y methodd rhai o feddyliau cryfaf yr oesoedd eu hateb. Hawdd oedd eu gofyn a'u gofyn drachefn, a'r meddwl truan fel rhywun dall yn ceisio ymlwybro mewn cors. Ond fe ddisgleiriai cariad Duw yn Ei Fab drwy holl niwl a thywyllwch y canrifoedd. Crwydrai dwsin o wŷr ifainc unwaith drwy bentrefi a dinasoedd gwlad Canaan, gan ddilyn y Meistr. Daethant i'w adnabod Ef, i gyfranogi o'i weledigaeth, i ryfeddu at y gwyrthiau a wnâi, i ymfalchïo yn Ei lwyddiant a'i boblogrwydd wrth ganfod y tyrfaoedd a gasglai hyd yr heolydd lle troediai. Duw, cariad yw, meddent wrth ei gilydd. Yna daeth gelyniaeth a gwawd, fflangell a choron ddrain a chroes. Cuddiasai'r Tad Ei wyneb: nid ydoedd Duw yn gariad mwyach. Llanwyd eu meddwl hwy â dryswch mawr: paham y caniatâi Duw i Rufain ollwng Barabbas yn rhydd a rhoi ar ysgwyddau diniwed y Meseia. faich gwrthun y groes? Ni wyddent; ni wyddent. Heddiw, ymhen yn agos i ddwy fil o flynyddoedd, gwelem yn aberth y Groes arwyddlun perffaith o gariad y Tad, darlun a ysbrydolodd gelfyddyd a bywyd gorau'r oesoedd, goleuni na ddiffoddid. Duw yn cuddio'i wyneb? Nage, yn Ei ddatguddio'i Hun yn Ei wir ogoniant.

Yr oedd hi'n amlwg i Grad i'w frawd yng nghyfraith fwynhau'r bregeth. Cafodd gip ar y gloywder yn ei lygaid ac ar y wên o edmygedd a chwaraeai ar ei wefusau. Ond diolch i'r nefoedd na ddihangodd Amen ara!l o'i enau. Yna codasant i ganu, a theimlai Crad yn falch o'r llais tenor peraidd a ddeuai o'i sedd. Yr oedd yn gryfach, yn fwy ffyddiog, y tro hwn hefyd.

Daethant allan o'r capel yng nghwmni Twm Edwards, y gŵr a gyfarfuasai William Jones yn y trên y diwrnod cynt. Wel, beth oedd o'n feddwl o'r lle? A oeddynt am fynd i'r Cyngerdd? Oeddynt, Arfon a'i dad a'i ewythr. Sylwodd William Jones ar y bobl ifainc hyd yr heolydd, a sylweddolodd mai Saesneg oedd iaith y mwyafrif ohonynt. Problem anodd, meddai Crad. Yr oedd hi'n bryd gwneud rhywbeth, oedd sylw William Jones. Oedd, yn wir, cytunodd Twm, a siaradai Saesneg bob gair â'i blant. Aethant heibio i'r Clwb, a chlywed sŵn clebran a chwerthin uchel drwy'r lle. Yr argian fawr, sut y caniateid "Hylô, bois!” gwaeddodd Shinc o'r drws. "Cyrdda' Mawr 'da ni yma heno!" "Go lew, wir, diolch," atebodd William Jones. Aeth tri bws mawr heibio.