Tudalen:William-Jones.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr oedd bywyd yn esmwythach o lawer hebddynt. Rhyfel? Fe gafodd o ddigon o hwnnw yn Ffrainc, ac nid oedd hi'n bosibi y deuai un arall mewn un genhedlaeth. Piti fod Mr. Rogers yn mynd ati i ddychryn y bobl fel hyn ac yntau wedi cael y fath hwyl ar bregeth y bore.

Yna llefarodd y pregethwr mewn dameg wrthynt. Cofiai ddyfod i Fryn Glo bymtheng mlynedd cyn hynny, o'r wlad a'i bywyd digyffro i ganol miri a "mynd” y Cwm. Llifai ynni a llawenydd fel afon: a gofient hwy y cymanfaoedd a'r Cyrddau Mawr a'r cyngherddau, trên llwythog trip yr Ysgol Sul, y baneri a'r bandiau bob Llungwyn yng ngorymdaith enfawr y Gobeithluoedd? Gwelodd William Jones amryw yn troi i wenu braidd yn drist ar ei gilydd ac ambell un yn ysgwyd ei ben yn hiraethus. Gallent oll yn y dyddiau hynny, meddai'r gweinidog, gredu mai cariad oedd Duw. Yna daeth cymylau i'w nef, a diffoddwyd heulwen yr hawddfyd gynt. Credasai ef mai gŵr y tywydd teg oedd Shoni ac y torrai ei galon yn y ddrycin: clywsai ei chwerthin diofal gynt, fel chwerthin plentyn ag amrywiaeth ei deganau o'i flaen. Llithrodd y cymylau'n is, gan daflu cysgodion ar bob aelwyd, a hawdd oedd credu nad oedd Duw yn gariad mwyach: ciliasai wyneb y Tad. Neidiai myrdd o gwestiynau gwyllt i'w meddwl, a gwyddai ef am lawer, yn grefyddwyr ac yn ddigrefydd, a ysgydwai ddyrnau ffyrnig yn wyneb y nef. Hawdd oedd beio Duw am hunanoldeb dynion; hawdd, wrth sefyllian yn y gynffon hir yn aros am y dole, oedd ffromi a cholli ffydd a suro. Eto, ped eisteddai ef, Mr. Rogers, i lawr i gofnodi hanes y Cwm, credai mai'r penodau am y blynyddoedd llwm fyddai'r rhai grymusaf; hwy a ysbrydolid gan stori'r dewrder a'r aberth a'r cymwynasau dirifedi; hwy a ddarllenid eilwaith. gan bwy bynnag a gydiai yn y llyfr. Na, nid dadlau yr oedd mai cerydd y Tad oedd y dyddiau blin: rhyfyg dynion a'u creai hwy. Ond wedi eu dyfod, fe groniclai angylion eu hanes mewn llythrennau o aur, a gwyliai Duw â phryder ac edmygedd ymdrechion Ei blant yng nghanol yr ystorm. Fe ddeuai dyddiau hawddfyd eto—yn fuan, gobeithio—a dychwelai'r chwerthin diofal i heolydd y Cwm. Hwyliai llong eu bywyd eto i ddyfroedd tawelach a mwy heulog, a dywedent hwythau—efallai gan daflu tros y bwrdd yr ysbryd gwrol a dwys a chymwynasgar a fagwyd yn y ddrycin—mai cariad yw Duw. Yr oedd llawer o broblemau na allent hwy