ar ei frawd yng nghyfraith. A oedd y dyn yn trio cychwyn diwygiad neu rywbeth ? Gobeithio'r nefoedd na chodai ei lais y tro nesaf, rhag ofn i bobl gredu mai ef, Crad, a oedd wrthi.
"Duw, cariad yw." oedd testun y bregeth, a chrychodd William Jones ei drwyn dipyn wrth ei glywed. Hen destun, rhy hen o lawer. Un o ddywediadau mwyaf yr oesoedd, meddai'r pregethwr, cnewyllyn y grefydd Gristionogol. Aeth i sôn am ryw athronydd o'r enw Socrates a oedd yn byw yn Athen dros bedwar cant o flynyddoedd cyn Crist, gŵr a dreuliai ei ddyddiau mewn ymchwil am wirionedd ac a ferthyrwyd am chwilfriwio syniadau esmwyth ei gyfnod. Yr oedd yn amlwg fod gan Mr. Rogers barch mawr i'r Socrates 'ma, a siaradodd yn huawdl am ei feddwl onest, di-ildio, ac am wrhydri'r merthyr yn y diwedd. Am Wirionedd yr oedd ei lef a'i lafur yn ddibaid, ac os daeth athronwyr erioed o fewn cyrraedd i Wirionedd, ef a'i ddisgybl, Plato, oedd y rhai hynny. "Duw, doethineb yw," meddai Socrates, ac ymhen tros ddwy fil o flynyddoedd ar ôl ei farw, daliai'r byd i barchu ac i edmygu ei feddyliau aruchel. "Onid oes arnoch gywilydd," meddai wrth bobl ddoeth a chyfoethog Athen, "yn pentyrru arian ac anrhydedd a bri, heb falio dim am ddoethineb a gwirionedd a thwf yr enaid ?” Do, fe gafodd Socrates weledigaeth, meddai Mr. Rogers, a bu ei fywyd a'i farw ef ei hun yn fynegiant ohoni. "Duw, doethineb yw," oedd cred yr athronydd o Athen. "Ein Tad," meddai'r Nasaread.
Yna taflodd y pregethwr gwestiynau i'r gynulleidfa. Os oedd Duw yn ddoeth, paham y gadawodd i Socrates a'i holl wybodaeth a'i ddoethineb farw mewn carchar yn Athen? Os oedd Duw yn gariad, paham y goddefodd i'w Fab ddringo bryn Calfaria ? Sut y gallai wylio afiechyd a phoen a gormes a chyni? A welai'r tlodi a'r cur yn y cymoedd digysur hyn? A glywai leisiau croch yn yr Almaen ac yn yr Eidal yn gyrru'n wylltach dramp y traed tuag ing rhyfeloedd? A wyddai fod Ei weision a'i broffwydi ymhlith y miloedd o drueiniaid yng ngharchardai'r gwledydd? Duw yn gariad, a'r byd fel petai'n wallgof?
Syllodd William Jones yn anghysurus ar y pregethwr. Yr oedd o yn reit hapus, diolch, a'i feddwl yn ddigon tawel—ar wahân i'r hen helynt ’na hefo Leusa. Ond yn wir, yr oedd rhyw gwestiynau fel hyn yn gwneud i ddyn deimlo'n annifyr,