Tudalen:William-Jones.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd un o'r darnau a ganasai'r côr. Hymiodd yr emyn yn dawel:

"Gwaed dy groes sy'n codi i fyny
'R eiddil yn goncwerwr mawr.
Gwaed dy groes sydd yn darostwng
Cewri cedyrn fyrdd i lawr.
Gad im deimlo,
Gad im deimlo,
Gad im deimlo
Awel o Galfaria fryn,
Awel o Galfaria fryn."

Tybiai y clywai'r emyn, fel y canesid ef gan y côr, yn codi o blith cadwyni arian y goleuadau ar lawr y cwm ac yn dringo trwy wyll y llethrau a thros y bryniau i nofio ymhell, bell, i eithafoedd y byd. Diawch, oeddan', yr oedd y coliars 'ma 'n medru canu! Oeddan', wir, chwarae teg i bawb. Piti ’u bod nhw mor bowld, hefyd! Ond efallai mai rhywbeth ar yr wyneb... Efallai, wir....

PENNOD IX

SOWTHMAN

"DIWRNOD yn hanes William Jones" a wnâi deitl pur dda i'r bennod olaf, onid e? Ond rhaid inni symud ymlaen yn gyflymach o lawer, neu fe fydd y llyfr hwn yn hwy nag un o nofelau Tolstoy, a thithau, ddarllenydd hynaws, a ddechreuodd ei ddarllen pan oeddit yn llanc mewn cariad, yn gofyn yn grynedig i'th ŵyr neu i'th wyres estyn dy sbectol iti i fynd ymlaen â'r ddeugeinfed bennod. Ac wedi'r cwbl, pwy yw William Jones i ti ymboeni ag ef? Felly, ceisiwn lunio pennod gan gadw teitl fel "Tymor yn hanes William Jones" mewn cof. Os digwydd bod rhai manylion yr hoffet eu gwybod, paid ag ofni eu llenwi i mewn dy hun: ni fydd llawer o wahaniaeth gan y gwron, medd ef. Yn unig, y mae am iti fod yn berffaith glir ar un pwnc—nid oes gennyt hawl i roddi yn ei enau neu yn ei feddwl un gair yn erbyn y Sowth. Y bobol ora' yn y byd, medd ef, ac os oes rhywun ... Ond ymlaen â'r stori.