"Diawch, yr wyt ti'n mynd yn rêl Sowthman, William," oedd sylw Crad un diwrnod ar yr heol pan ddywedodd William Jones "Shwmâi, bachan?" wrth Shinc.
"Wel, ydw', wir, fachgan. Mae'r lle yma'n mynd i waed rhywun."
Croesodd Shinc atynt.
"Victimisation, Crad," meddai.
"Be?"
"Richard Emlyn." Ei fachgen hynaf oedd Richard Emlyn.
"Be' sy wedi digwydd, Shinc?"
"Stopo'i dole a."
"Yr argian fawr, pam?" gofynnodd William Jones.
"Achos fe wrthododd fynd i ryw Training Centre sha Lloegar ’na."
"O? I ddysgu be? Cerddoriaeth?" Gwyddai William Jones fod Richard Emlyn yn gerddor pur dda ac yn grythor gwych.
"Cerddoriath!" Poerodd Shinc yn ffyrnig i'r ffordd. "Na ddyla' fa gal—tair blynadd yn y Royal College of Music. A dyna 'wetais i wrtho fa cyn iddo fa fynd lawr i Gardydd o'u blân nhw. 'Gwêd ti wrthyn nhw dy fod ti'n moyn tair blynadd yn y Royal College of Music, Richard Emlyn,' myntwn i. A fe'wedodd a 'ynny 'ed, myn diawl."
"Be' oeddan nhw'n gynnig iddo fo?" gofynnodd Crad.
"Chwe mish i ddysgu bod yn fricklayer. Yffarn dân! A phan wrthodws a, 'na stopo'i dole a. Victimisation! Am fod 'i dad a'n Gommunist, 'chi'n deall."
"Faint o amser fydd o heb y dole?"
"Gofyn di iddyn nhw, Crad. Nes bydd a'n newid 'i feddwl, sbo. Ond 'dyw Richard Emlyn ni ddim yn mynd yn frici, fe ofala' i am hynny. Clywch!" A gwrandawodd y tri ar hiraeth pêr y ffidil a ganai'r llanc ym mharlwr y tý dros y ffordd. Yr oedd llygaid Shinc yn llaith. "Yffarn dân!" meddai eto, gan frysio ymaith i guddio'i deimladau.
Aethai rhyw bedwar mis heibio, ac yr oedd golwg llai llewyrchus ar William Jones erbyn hyn. Gwisgai ei siwt ail-orau, wrth gwrs, ond yr oedd graen go dda arni o'i chymharu â dillad y mwyafrif o wŷr Bryn Glo. Ei ben a'i draed a gyffesai fod eu perchennog yn ddi-waith. Am ei ben, hen het lwyd i Grad; am ei draed, yr esgidiau hoelion-mawr a ddygasai gydag ef o'r Gogledd. Gwisgai ei esgidiau gorau