Tudalen:William-Jones.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwir fedrus fel crydd, a pharod iawn oedd i gynorthwyo eraill; rhoddai help llaw i Grad yn awr.

"Practis da neithiwr, Ned?" meddai William Jones.

"Grêt, w. 'Chlywis i mo'r Worthy yn cal 'i ganu'n well ariod. Ôch chi'r tenors mewn fform nithwr. Ôch, wir. Be' odd E lan 'na yn feddwl?" Nodiodd tua'r llofft, lle gwyddai fod yr arweinydd wrth ei waith fel saer.

"Ddeudodd o ddim llawar ar y ffordd adra. Ond 'roedd o i'w weld yn reit hapus. Dechra' shapo 'rŵan—'nawr- medda' fo."

"Wel, os yw Dai yn gweud bod ni'n dechra' shapo, 'ŷn ni'n canu fel angylion, siŵr o fod."

Yr oedd tri diddordeb mawr ym mywyd William Jones erbyn hyn—y capel, lle ni chollai un oedfa; y côr (onid oedd y Trysorydd?); a Mot, y ci a brynasai i Wili John. Yr oedd Mot bellach yn bedwar mis oed, a châi lawer o sylw gan bawb yn y tŷ. Daethai William Jones o hyd iddo ar un o'i deithiau ofer i chwilio am waith. Cerddasai un diwrnod dros y mynydd i'r cwm agosaf, a mentrodd alw yn swyddfa'r gwaith y daliai ei beiriant—codi-glo i besychu'n ysbeidiol. Wedi iddo egluro na fuasai erioed dan ddaear ond ei fod yn chwarelwr go lew ac yn ddirwestwr selog, troes ymaith yng nghwmni glowr bychan, bywiog, o'r enw Sam Ifans.

"Lle ych chi'n mynd ’nawr?" gofynnodd hwnnw.

"Yn ôl dros y mynydd."

"Dim heb i chi gal dishglad o de, bachan. Dewch 'da fi."

Nid oedd modd gwrthod: ni wrandawai Sam Ifans ar esgus o fath yn y byd. Ac fe'i cafodd William Jones ei hun mewn tŷ na welsai ei lanach erioed, er nad oedd y stryd ond enghraifft arall o'r adeiladau salw a brysiog a geid yn y cymoedd hyn. Dyna un peth a wnâi iddo ryfeddu—y glendid a'r balchder yn y tai. Credasai y noson gyntaf honno ym Mryn Glo fod Meri ei chwaer yn ymegnïo i roi gwers i'r anwariaid o'i chwmpas, yn ceisio troi ei thŷ'n batrwm iddynt. Ond sylweddolodd yn fuan iawn mai'r "anwariaid" a ddysgasai wers i Meri, fod aelwyd a chegin a pharlwr yn her i hylldrem y cwm a'r llethrau. Tŷ David Morgan, er enghraifft. Tŷ Ned Andrews dros y ffordd. Go flêr oedd cartref Shinc, efallai, ond dyna fo, ni chredai Shinc na'i wraig mewn rhyw arwynebolrwydd fel sglein. Twyll oedd peth felly, cymryd arnynt eu bod yn feistri ar eu ffawd—a'u tai eu hunain.