Tudalen:William-Jones.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yr oedd gan Shinc ryw esgus; yr oedd ei wraig yn fwy hoff o fynd o gwmpas i ganu nag o lanhau'r tŷ. Er hynny, beiai'r chwarelwr ef am aflerwch ei gartref.

Darganfu William Jones nad oedd y glowr bychan, bywiog, mor ddibryder ag y dymunai i'r byd gredu ei fod. Yn wir, yr oedd gofid fel plwm yng nghalon Sam Ifans. Trannoeth, yr oedd i golli Nel, yr ast a garai ef a'i wraig gymaint. Rhywfodd neu'i gilydd, ni chawsai nodyn swyddogol o'r Llythyrdy ddechrau'r flwyddyn yn ei atgofio bod arno saith a chwech am drwydded Nel, a chan ei fod yn ddi-waith, ni yrrodd air at yr awdurdodau i brotestio am y diofalwch. Llithrodd hanner blwyddyn heibio, a daliai Sam i daflu ambell winc slei a hapus at Nel. Ond yn sydyn, rai wythnosau cyn ymweliad William Jones, cofiodd rhyw glerc yn rhywle fod ar Samuel Evans, 21 Colliers Row, Cwm Llwyd, saith a chwech am gadw ci, ac wedi iddo wneud y darganfyddiad a methu à chael ateb i dri nodyn, gyrrwyd heddgeidwad i'r tŷ i fygwth mynd â'r ast ymaith. Ateb Nel i hyn oedd cyflwyno i'r byd, y diwrnod ar ôl ymweliad y plisman, dri o gŵn bach tlws dros ben.

"Be' ydach chi am wneud hefo'r cŵn bach 'ma?" oedd cwestiwn William Jones wedi iddo glywed yr hanes.

"S mo i'n gwpod, wir. 'S neb yn moyn cŵn 'nawr, w. Dim arian, 'chi'n gweld."

"Fasach chi'n gwerthu un i mi?"

"Pidiwch â siarad dwli. Cymerwch un. P’un ych chi'n moyn?"

"Hwn'na â'r tei gwyn 'na ar 'i frest o. Ond mae'n rhaid imi gael talu amdano fo."

"Talu! Hwrwch! Fe allwch 'i gario fa yn eich pocad."

"Reit. 'Faint oeddach chi'n ddeud oedd y leisans, hefyd?"

"Saith a 'wech."

"O, ia. Wel, yr ydw i wedi bod yn chwilio am gi bach ers ... ers pythefnos, ac yn .... yn methu'n glir â chael un i'm plesio. A dyma fi wedi dŵad o hyd i un o'r diwadd, y ci bach dela' welis i 'rioed. Isio un i Wili John, hogyn fy chwaer, ydach chi'n dallt. Mi fydd o wrth 'i fodd."

A thra siaradai, darganfu dri hanner coron yn ei bwrs a'u taro ar y bwrdd. Edrychodd y glowr yn gas. "Shgwlwch 'ma," meddai. "Os ych chi'n meddwl mod i'n mynd i gymryd saith a 'wech oddi ar fachan sy mas o waith ..."