"Diar annwl, ’ydw i ddim allan o waith. Ar fy holides i lawr yma yr ydw i. Heb gael gwylia' ers diar, ers blynyddoedd, a blino ar fynd i'r hen chwaral 'na bob dydd heb dipyn o newid. Yr ydw i'n ennill cyflog reit dda."
A oedd colled ar y dyn? gofynnodd Sam Ifans iddo'i hun.
"Be'... be ôch chi'n moyn yn y Neptiwn?"
"O?" A chwarddodd William Jones yn llon. "Crad, fy mrawd yng nghyfraith, sy allan o waith, ydach chi'n dallt, a finna'n gwneud bet hefo fo y medrwn i gael job fel coliar ond imi fynd i chwilio amdani. Fo fydd yn ennill y fet, mae arna' i ofn... Wel, diolch yn fawr i chi am y te. Mae'n rhaid imi frysio adra 'rwan."
Ac wedi palu'r celwyddau hyn, troes ymaith, gan ddal y ci bach yn ofalus yn erbyn ei frest a chymryd arno golli ei dymer pan geisiodd y glowr wthio'r saith a chwech yn ôl i'w law.
"O, ia, pa frid ydi o, er mwyn imi gael deud wrthyn nhw adra?" gofynnodd, y tu allan i'r drws.
"Brid? Wel, ma'i fam e'n spanial ac yn ritrifar ac yn gi defed, ond beth a phwy yw 'i dad e, dim ond y Nefoedd sy'n gwpod, bachan. "Falla' taw milgi Dic Tomos. 'Smo fi'n gwpod, ta beth."
Aethai rhyw bedwar mis heibio er hynny, ac enillasai Mot ei le bellach fel aelod pwysig iawn o'r teulu, y ci bach gorau yn y byd. Dechreuai gallio tipyn erbyn hyn, ac ysgafnhawyd y baich o bryder ar ysgwyddau William Jones. "Diar, yr hen gi yma eto!" fyddai sylw Meri bron bob dydd am rai wythnosau, ac edrychai ei brawd ymaith yn euog a ffwdanus oddi wrth y dodrefnyn a lanhâi ei chwaer. Yn y dyddiau cyntaf, hefyd, darganfu Mot y grisiau a chredai fod eu dringo'n gamp anturus iawn. Y drwg oedd na allai ddisgyn unwaith y cyrhaeddai'r pen, dim ond swnian yn dorcalonnus yno uwch y dibyn. Âi William Jones i fyny i'w nôl, ond cyn hir deuai'r swnian eilwaith o ben y grisiau, a rhaid oedd eu dringo drachefn i'w achub oddi yno. "Cau'r drws 'na, Wili John, rhag ofn i Mot fynd i fyny'r grisia' eto," a oedd frawddeg a glywid yn aml. Wedyn, yn anffodus, yr oedd gan y ci bach ddannedd, a mwynhâi gnoi rhywbeth o fewn ei gyrraedd—matiau, papur, darn o lo, esgidiau, coesau cadair, brws pentan, rhywbeth a phopeth. Prynodd William Jones asgwrno rwber iddo, gan gredu argyhoeddiad gŵr y siop na thalai Mot