"Y cloc-larwm 'cw ddaru stopio yn y nos, ac fe gysgodd y wraig a finna" tan ganiad."
"Diar annwl ! Ond "dydi hi ddim ond wyth 'rŵan ! Rhaid eich bod chi wedi rhuthro."
"Do. Mi ddois i heb frecwast na dim. Mae'n ddrwg gin i, Mr. Owen."
"Rydw i'n clywad stori'r cloc-larwm wedi stopio bron bob bora, William Jones, a phur anamal y bydda' i yn rhoi rhithyn o goel arni hi. Ond mi wn i fod pob gair ohoni yn wir y tro yma, Peidiwch â phoeni am y peth o gwbwl. Ond mi faswn i'n eich cynghori chi i ddibynnu, fel finna', ar y wraig yn lle ar y cloc-larwm. Welis i neb fel Mrs. Owen acw am ddeffro yn y bora. I'r eiliad. I'r eiliad bob gafael. . . Ydi, wir, mae hi yn ddiwrnod braf. Wel, bora da 'rŵan."
"Bora da, Mr. Owen, a diolch yn fawr i chi."
Prysurodd ar hyd y bonc, heibio i wynebau agored y waliau lle'r oedd dynion yn hollti a naddu'r llechi. "Dyma fo eto, Huw!" gwaeddodd Dic Trombôn. "Yr un fath bob bora, yn sleifio at 'i waith, wel di! Does dim modd achub hen bechaduriaid fel hyn, wsti!" A chwarddodd ef a'i bartner, Huw Lewis, yn uchel. Yr oedd Dic yn nodedig am ei gyfrwystra wrth sleifio i'r chwarel ymhell wedi'r caniad.
Cyrhaeddodd ei wal o'r diwedd a brysiodd iddi, gan dynnu ei gôt i'w hongian ar y darn o haearn a gurwyd i mewn i'r mur. Eisteddodd ar ei flocyn a dechreuodd hollti clwt o garreg. Aeth ei bartner, Bob Gruffydd, ymlaen â'i naddu wrth y drafel heb yngan gair. Gŵr hynod dawedog oedd ef.
"Be' ddigwyddodd hiddiw, William?" gofynnodd cyn hir.
"Y cloc-larwm, fachgan. Mi stopiodd yn y nos, ac 'roedd hi'n ganiad ar Leusa a finna" yn deffro.
Araf o gorff a meddwl oedd Robert Gruffydd. Cymerodd hanner munud cyfan i dreulio'r newydd cyn cael ei gynhyrfu i fynegi barn.
"Wedi anghofio'i weindio fo, William."
"Na, stopio ohono'i hun ddaru o."
"Taw, fachgan!"
Aeth hanner munud arall o dawelwch heibio cyn i Robert Gruffydd lwyddo i ymbalfalu am ei gwestiwn nesaf.
"Pryd daru o stopio, William?"
"Rhwng un a dau."
"O."