Tudalen:William-Jones.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn yr hwyr, cafodd William Jones ddigon o gymorth parod i wisgo ar gyfer y cyngerdd. Yr oedd aelodau'r côr, os oedd modd yn y byd, i wisgo'n unffurf—y merched mewn gwyn a'r dynion mewn dillad tywyll a choler big a bwa du. A phan ddaeth yr amser iddo gychwyn, rhuthrodd Meri i nôl y brwsh dillad, dug Wili John gadach i roi sglein ychwanegol ar ei esgidiau, a phenderfynodd Arfon nad oedd y bwa du yn hollol syth. "Hen ffys gwirion" y galwai'r cantor hyn, gan egluro nad oedd ef ond tenor bach ac na ddewiswyd ef i ganu unawd.

Er hynny, nid oedd neb balchach na'r tenor bach yng ngaleri Calfaria'r noson honno. Diar, beth pe gwelai Bob Gruffydd ef yn awr! Teimlai braidd yn nerfus wrth wylio'r gynulleidfa oddi tano; ni wynebasai dyrfa fawr fel hon erioed o'r blaen. Edrychodd o'i amgylch ar y côr â balchder yn ei galon—y merched i gyd mewn gwyn a'r dynion oll yn gwisgo coler galed a bwa du. Gwenodd wrth feddwl am y dirgel ffyrdd y crwydrodd rhai hyd-ddynt i fenthyca "whîl a sprag."” Twm Edwards, er enghraifft, fan acw ymhlith y baswyr—ymddangosai cnawd ei wddf fel rhimyn o does yn ymchwyddo tros ymyl ei goler den: gobeithio y medrai ganu, dyna'r cwbl. Hylô, dacw Arfon a Wili John ym mlaen y galeri, uwchben y cloc. Gwenodd William Jones arnynt, a chydnabu Wili John y cyfarchiad trwy gymryd arno gynnig darn o daffi i'w ewythr. 'Na fachan oedd Wili John, meddai hwnnw wrtho'i hun. Ia—gan gofio mai Gogleddwr oedd—hogyn ar y naw oedd Wili John.

Idris Morgan, mab yr arweinydd, a eisteddai wrth ei ochr, a phan ddechreuodd yr organydd, Richard Emlyn, ganu'r darn arweiniol mawreddog, teimlai William Jones gorff ei gymydog yn ymsythu drwyddo, fel petai pob nerf yn tynhau wrth iddo ddilyn hynt y nodau. Yna cododd y tenor yn y pulpud, a llithrodd ei lais yn esmwyth a swynol trwy "Comfort ye, comfort ye, my people" a chryfhau wedyn yn yr unawd "Every valley shall be exalted." Ni chlywsai'r chwarelwr lais mor beraidd erioed, a gwyrodd ymlaen a'i lygaid yn fawr, gan adael i'r sain a'r geiriau oedi fel pethau byw, sylweddol, ar hyd rhigolau ei feddwl. Teimlai yr hoffai gyffwrdd y llais hwnnw, dal rhai o'r nodau yn ei ddwylo i syllu arnynt, teimlo â'i fysedd sidan a melfed eu rhyfeddod hwy. Yn lle hynny, gafaelodd yn dynnach yn ei gopi, a phan safodd y côr i ganu "And the Glory of the Lord," llyncodd ei boer,