Tudalen:William-Jones.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwthiodd ei frest allan yn wrol, a chododd ei ên fel petai yntau'n unawdwr. O'i flaen ac oddi tano, môr anelwig o wynebau, a daeth braw yn gryndod trosto am eiliad. Hoeliodd ei sylw ar lawffon yr arweinydd, ac ymhen ennyd fe gynorthwyai ef, William Jones, y côr i godi un o'r temlau ysblennydd a welsai Handel un awr ysbrydoledig. Pan eisteddodd i lawr eilwaith, pefriai ei lygaid a llanwyd ei galon â gorfoledd. Yr oedd ei ffiol yn llawn pan daflodd ei arwr, David Morgan, wên gyfeillgar tuag ato.

Noson fawr ym mywyd William Jones oedd honno. Cerddodd adref o Galfaria yng nghwmni Idris Morgan, a phur dawedog oedd y ddau. Clywent leisiau chwyrn ar fin yr heol yn dadlau ynghylch rhagoriaethau a gwendidau'r unawdwyr— "dim patch ar Elsie Suddaby, bachan"—a theimlent yn ddig wrthynt am droi'r gerddoriaeth yn destun ymryson. Wrth iddynt fynd heibio i glebran afreolus y Clwb, berwai'r dicter ynddynt: oni wyddai'r bobl hyn fod organ a chôr ac unawdwyr newydd gyfieithu gweledigaeth fawr yn felystra cerdd?

"Na fachan odd yr Handel 'na," meddai Idris pan ddring- ent yr allt.

"Ia, mae'n rhaid. Almaenwr, yntê?"

"Ia. 'Odych chi wedi darllen 'i hanes a?"

"Naddo, wir. 'Wn i ddim byd amdano fo."

"Fe ro' i fenthyg llyfyr bach i chi—hanes 'i fywyd a."

"Diolch, Idris. Gyda llaw, pam oedd y gynulleidfa'n codi yn ystod yr Haleliwia Coras?"

"Hen arferiad. Pan berfformiwyd yr oratorio gynta' yn Llunden, dyma'r Brenin a'r cynulleidfa cwnnu ar 'u trad pan odd y côr yn canu For the Lord God omnipotent reigneth. Odd 'onno'n olygfa, siŵr o fod. Wel, so long 'nawr. Fe gewch chi'r llyfyr bora 'fory."

Cafodd groeso cynnes gan Feri ac Eleri a Mot: teimlai'r chwaer yn falch o'i brawd o denor.

"Sut aeth petha', William?"

"Yn champion, hogan. Canu bendigedig. .. Yntê, Motyn Esgid pwy 'di hon'na sy gin ti yn dy geg? O, 'ches di ddim dwad i'r consart, naddo, 'ngwas i? Hidia befo, mi gei di fynd am dro i'r mynydd yn y bora ... Lle mae Crad?" "Welist ti mono fo wrth y capal? 'Roedd o am fynd i wrando wrth y drws, medda' fo. Mi addawodd yr âi o i mewn i'r lobi rhag ofn iddo gael annwyd ... O, dyma fo."