Tudalen:William-Jones.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Diawcs, 'roeddat ti'n edrach yn rêl bôi yn y galeri 'na, William! Oeddat, wir, was! Yn gymaint o ganwr ag un ohonyn nhw. A dyna ganu, fachgan! Mi welis i Dai Morgan gynna', ac 'roedd o fel hogyn bach. Wrth 'i fodd! Champion, William, champion!" Nid oedd pall ar frwdfrydedd Crad.

"Tyd at y tân 'ma," meddai ei wraig wrtho, "rhag ofn dy fod ti wedi oeri. Gobeithio na fuost ti ddim yn sefyllian y tu allan i'r capal."

"Fi! Mi ges i le wrth ymyl y Sêt Fawr, 'nginath i." A chododd Crad ei ên yn urddasol.

"Ond 'roeddat ti wedi rhoi dy dicad i Wili John."

"Ticad! Pan gyrhaeddis i i lawr yno, mi es i mewn i'r festri. Pwy oedd yno ond Jac Jones sy'n llnau'r capal.

Dyma fo'n bowio imi. 'Ma'n dda 'da fi weld bod y Cadeirydd 'di cyrradd, medda' fo. 'Ffor hyn, syr! Ac i fyny'r grisia' â ni, yn cario cadair bob un."

"Sleifio i mewn heb dalu ydw i'n galw peth fel'na," oedd sylw Meri. "Ond dyna fo, un felly ydw i'n dy gofio di 'rioed, ac un felly fyddi di bellach, mae'n debyg. Os medrai Crad ddwyn reid geiniog ar dram yn Nhre Glo, mi fyddai wrth fodd, William—fel 'tai o wedi codi papur punt ar y ffordd. A dyna'r Jac Jones 'na! 'Dydi o ddim ffit i llnau un capal."

"Dyma be' ydw i'n gael ar ôl sgwennu cheque am bum gini i'r côr, William," meddai Crad gydag ochenaid fawr. Aeth William Jones i'w wely'n gynnar. Wedi sibrwd y gyfrinach y bwriadai yntau grwydro'r byd fel unawdwr ryw ddydd, syrthiodd Wili John i gysgu. Ond ni ddôi cwsg i i amrannau ei ewythr. Âi drwy bob unawd a phob cytgan eilwaith, gan ddal ambell nodyn neu far yn hir yn ei feddwl. Gwelai eto'r golau'n chwarae yng ngwallt gloywddu'r soprano, a chlywai ei llais yn yr unawd "I know that my Redeemer liveth" yn esgyn i uchelder y nef. Dringai'r gair "know" at orsedd gras. Diar, ac onid oedd sŵn utgorn yn llais y baswr yna pan ganai "The trumpet shall sound"? Ac wedyn, ar y diwedd, gafaelai rhyw ysbrydiaeth ryfedd yn y côr pan gododd i foli'r Oen ac i uno'n gryf yn yr Amen. 'Rargian, yr oedd rhyw brofiad fel hwn ... Ond syrthiodd William Jones i gysgu.

Dim ond un peth a gymylodd Nadolig llawen y chwarelwr