Tudalen:William-Jones.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a thu ôl i'r wên ddewr yn llygaid gwragedd ar aelwydydd neu yn nrysau'r tai. Diar, yr oedd hi'n biti, onid oedd, mewn difri'?

Ac wrth syllu drwy ffenestr y llofft fore'r Flwyddyn Newydd, brathodd y chwarelwr ei wefus wrth gofio iddo wario mwy na hanner yr arian a fu ganddo yn y Llythyrdy. Beth a ddygai hi, 1936, iddo, tybed? Gwaith? Neu droi'n ôl i Lan-y- graig—a Leusa? Ysgydwodd William Jones ei ben wrth gau botymau ei wasgod.

PENNOD X

O FRYN GLO—I FRYN GLO

GORAU Bryn Glo a welai William Jones—pobl y capel a'r côr a'r dyrnaid o wŷr difrif a ddeuai i festri Salem ambell gyda'r nos. Sylweddolodd hynny un bore Sadwrn wrth ddychwelyd adref ar ôl tro i Ynys-y-gog yng nghwmni Mot.

Cerddasai ymhellach nag a fwriadai wrth gychwyn allan, ac wedi cyrraedd pentref Ynys-y-gog, dringasai'r llethr ar y dde i gael golwg ar yr eglwys hynafol ac i oedi yn y fynwent. Rhyfedd, meddai wrtho'i hun, fel yr oedd y cerrig-beddau'n ddarlun o'r lle—yr hen rai, bron i gyd yn Gymraeg ac yn cynnwys englyn neu adnod, yn cofnodi marwolaeth y ffarmwr Richard Harris neu'r saer Thomas Jenkins neu'r gof William James, a llawer o'r rhai newydd, y mwyafrif ohonynt yn Saesneg, er cof am Ralph Cross neu Ernest Trowbridge neu Matthew Higgins. Daliai'r enwau Cymreig, wrth gwrs, i ymddangos ymhlith y dieithriaid, a chysgai rhyw Gwilym Davies wrth ochr rhyw Oswald Gulliford. A'u meibion hwy? Oswald Davies a Gwilym Gulliford.

Yr oedd hi ymhell wedi un pan gyrhaeddodd William Jones waelod Bryn Glo ar ei ffordd yn ôl, a chofiodd iddo gael siars gan Feri i fod gartref i ginio erbyn hanner awr wedi deuddeg. Yn lle mynd ymlaen heibio i'r orsaf a thrwy'r brif heol, penderfynodd dorri drwy'r ystrydoedd ar ei chwith. Hwnnw oedd y tro cyntaf iddo weld yr heolydd hynny, a dychrynodd braidd. Gwir fod Nelson Street a'r ystrydoedd gerllaw iddi'n dlawd iawn, ond cerddai yn awr heibio i dai a