Tudalen:William-Jones.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phobl a phlant a ymddangosai'n aflan. Edrychodd yn ôl i chwilio am Fot, a gwelodd fachgen bychan yn cydio yng ngholer y ci ac yn ei lusgo i mewn i un o'r tai. Brysiodd i ddrws agored y tŷ hwnnw, a syllodd yn frawychus ar a welai.

Wrth waelod y grisiau, a charpiau budr amdano, yr oedd plentyn bach eiddil iawn yr olwg yn cropian ar gerrig oerion y llawr, a deuai o'r tŷ ysgrechian plentyn llai, llais cras y fam yn ei dafodi, a "Shut that bloody baby's mouth" o enau'r gŵr. Gan fod drws y gegin hefyd yn agored, cafodd gip ar anhrefn y lle—ar y llawr cerrig na olchwyd mohono ers dyddiau lawer, ar weddill y brecwast a'r cinio o hyd ar y bwrdd, ar y tryblith a daflesid ar gadeiriau a llawr, ar aflerwch anhygoel yr aelwyd a'r grât. Ond nid oedd angen llygaid i ganfod hagrwch a budreddi'r tŷ hwnnw: ceisiodd William Jones beidio ag anadlu wrth wyro ymlaen i guro ar y drws.

Rhuthrodd geneth fach garpiog heibio iddo ac i mewn i'r tỹ â phapur newydd yn ei llaw. Clywodd hi'n dweud, yn Saesneg, fod rhywun yn y drws, ond cydiodd ei thad yn awchus yn y papur ac yna rhegodd yn chwyrn. "Another bloody sixpence gone west," meddai rhwng ei ddannedd. Curodd William Jones drachefn, yn uchel y tro hwn, gan y clywai Mot yn cwynfan yn rhywle yng nghefn y tŷ. "Wel ?" Edrychai'r gŵr yn gas arno, ac yr oedd yn ddyn i'w ofni, cawr digoler, yn llewys ei grys, a'i fawd wedi ei daro'n haerllug am ei felt. Yr oedd aroglau diod o amgylch y "Wel?" a sug baco ar wefusau'r gŵr.

"Esgusodwch fi, ond yr ydw i wedi colli ci. Newydd 'i golli o, a meddwl 'mod i wedi 'i weld o yn dŵad i'r tŷ yma."

"Alf!" cyfarthodd y dyn i gyfeiriad y cefn. "Alf! Damo'r crwt 'na! Alf!"

"Yes, Dad?"

"Bring that dog by 'ere."

"O.K."

"On i'n gwpod 'i fod a ar gôll, ac am fynd ag a lawr i'r Police Station. Un bach pert yw a, 'êd. Lyfli dog, lyfli dog, gwbôi, gwbôi." A thynnodd ei law tros ben y ci.

"Wel, diolch yn fawr i chi. ... Tyd Mot, tyd, 'ngwas i."

"The gentleman is going to give you a sixpence, Alf," meddai'r cawr wrth ei fab. Ac wrth syllu ar ruddiau llwydion y bachgen, rhoes William Jones ei law yn ei boced i chwilio