Tudalen:William-Jones.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglurodd ei fod yn methu â chael digon o actorion ar gyfer un o'r dramâu, ond y gwelai William Jones fel siopwr gwych a Chrad fel plisman bendigedig ynddi.

"Fi!" gwaeddodd Crad. "Y nefoedd fawr! 'Fûm i 'rioed yn actio dim. 'Rioed."

"Na finna'," meddai William Jones mewn dychryn.

"Rwyt ti wedi dwad i'r tŷ rong, Twm 'ngwas i," chwaneg- odd Crad. Yna cofiodd am y Band of Hope yn Llan-y-graig ers blynyddoedd. "Ond mi fu William 'ma yn dipyn o adroddwr unwaith."

"Y? Na fûm i, 'neno'r Tad."

"Yn y Band of Hope, William."

"O. Ond 'doeddwn i ond hogyn bach."

"S dim raid i chi wylltu, bois. Partia' bach ŷn' nhw, yn niwadd y ddrama."

"Bach ne' beidio, 'dydw i ddim yn mynd yn blisman ar unrhyw lwyfan iti, Twm."

Ond ni chymerodd Twm sylw o'r gwrthwynebiad. "Ma'r plot," meddai. A chawsant amlinelliad cyffrous o gymeriadau a digwyddiadau'r ddrama.

Cyfyd y llen, meddai Twm, ar ŵr di-waith a'i wraig mewn cegin dlawd. Y mae hi'n hwyr ar noswaith o aeaf ("Sŵn gwynt, 'chi'n deall"), ond cyn troi i'w gwely eglurant i'w gilydd ac i'r gynulleidfa mor bryderus ydynt ynghylch eu mab a'u merch. Ymh'le y caiff Dic y fath arian i wisgo a swagro fel y gwna? Ac onid yw Megan yn y sinema neu mewn dawns bob nos? Rhwygir y nos gan daranau ("Atmosphere, 'chi'n gweld"). Daw'r ferch i mewn, ar gychwyn i ddawns. Cymer ei thad y Beibl oddi ar y dresel. Dawns neu beidio, y mae'n rhaid iddi wrando ar ddarn allan o lyfr Jeremiah. ("Contrast, 'chi'n deall—yr hen wr a'i Feibl, a'r ferch 'di gwisgo lan i'r ddawns"). Yna, saetha'r tad gwestiynau miniog at ei ferch. O ba le y daw'r arian a werir ganddi? A oedd hi wedi dechrau lliwio'i gwallt? Lle cawsai hi'r arian i brynu'r ffrogddawns grand 'na? Pam gynllwyn y rhoddai hi'r fath baent a phowdwr ar ei hwyneb? A'r taclau ffôl 'na yn ei chlustiau? Etyb y ferch yn wyllt ("Dramatic clash, 'chi'n deall"), ac yna erfyn yr hen wraig am i'r gŵr beidio â bod mor gas wrth Fegan fach. ("Pathos, bois"). Megan yn torri i wylo, yn tynnu'r modrwyau o'i chlustiau a'u taflu i'r tân, ac yn rhuthro allan. Taran enbyd. Llun Dic, y mab, yn syrthio o'i le ar y