mur, arwydd o ryw alanas sydd ar ddigwydd. Megan yn dychwelyd, mewn gwisg dywyll a thlodaidd a heb y paent a'r powdwr ar ei hwyneb. ("Na chi olygfa, bois!"). Y tri'n wylo'n hidl a'r ferch yn cyffesu iddi gael arian a enillasai Dic ar geffylau, meddai ef. Curo awdurdodol ar y drws. Megan yn ei ateb. Pwy sydd yna, tybed? ("Suspense, bois"). Daw siopwr a phlisman i mewn yn gwthio Dic o'u blaeriau. Eglurant iddynt ei ddal yn ceisio agor safe y siop ac iddo gyfaddef bod ganddo lawer o arian a phethau eraill wedi'u cuddio yn y tŷ. Yr hen wraig dorcalonnus yn syrthio ar wddf Dic bach, y ferch ar ei gliniau, a'r hen ŵr yn cydio eto yn ei Feibl. Taran fawr arall yn ysgwyd y lle. Llen araf, araf, araf.
"Wel, be' ych chi'n feddwl ohoni, bois?" gofynnodd Twm.
"Reit dda, wir," oedd barn William Jones. "Ond ..."
"Ond beth?"
"Wel ... 'Ydach chi'n meddwl y basa'r ferch yn cael troedigaeth lawn mor sydyn?"
"Ma' fa'n ddramatig, 'chi'n gweld."
"O."
Yr oedd yr ymresymiad yn un terfynol. Er hynny, codai nifer o gwestiynau eraill ym meddwl William Jones. Cafodd gip ar yr Hen Gron, er enghraifft, ac ni hoffai'r defnydd rhwydd a ffuantus a wnâi'r ddrama hon o'r Beibl. A dyna'r crio 'na. Ond ni ddywedodd air arall.
"Ydi hi'n rhaid iti gael y plisman 'na ynddi hi, Twm?" oedd cwestiwn Crad.
"Wel, odi, bachan. 'Na'r cleimacs."
"Ond nid i'r tŷ y basan' nhw'n mynd â'r hogyn."
"Y?"
"I'r Polîs Stesion, 'ngwas i. Yntê, William?" Apeliodd Crad at ei frawd yng nghyfraith fel petai hwnnw'n hen gyfarwydd â chael ei lusgo i'r rhinws.
Daeth Meri i mewn i'r ystafell, ac eglurodd Twm ei neges iddi hi. Dim ond rhannau bychain yn niwedd y ddrama, William Jones i gael locsyn a Chrad ddillad Pierce y plisman. Dyna un rheswm y daethai Crad i'w feddwl—am ei fod tua'r un faint â Sam Pierce, heddgeidwad Bryn Glo.
"Fûm i 'rioed yn actio, Twm, a 'dydw i ddim yn meddwl dechra' yn fy hen ddyddia', 'ngwas i." Yr oedd Crad yn gadarn ar y pwnc.