"Un, dwy, tair ... Dim ond deg speech fach sy 'da ti i'w dysgu, bachan."
"Dydw' i ddim yn mynd ar lwyfan i ddeud bw na ba. Ond os licia William 'ma
"Wel, na, wir, diolch i chi yr un fath."
Apeliodd Twm at Feri. "Pwnnwch dicyn o sens i benna'r ddau fachan 'ma, Mrs. Williams, wir."
"Gadwch chi'r llyfra' yma iddyn nhw," oedd ei hawgrym cysurlawn hi. "Maen nhw'n siŵr o ddysgu'r partia' i chi."
"Y?" Edrychodd Crad ar ei wraig fel petai'n ei gweld am y tro cyntaf erioed.
"Mi fydd yn ddiddordab newydd i chi'ch dau, Crad. Ac mi wyddost faint o bleser gafodd William hefo'r oratorio."
"Roedd William yn medru canu. Ond am actio!
"Twt, mi fedar rhywun actio rhanna' bychain fel'na."
"Rhywun ond fi a William."
"Gadwch chi'r llyfra' yma, Mr. Edwards. Mi ofala' i 'u bod nhw'n dysgu'r ddrama."
Yn o araf y cerddai'r ddau actor anfoddog i'r ymarfer yn y festri y nos Lun ganlynol, a chafodd William Jones gryn drafferth i gadw Crad rhag troi'n ei ôl. Ni ddefnyddid y festri mwyach fel aelwyd i'r di-waith, gan i ystafell weddol gyffyrddus gael ei dodrefnu yn yr ystabl a drowyd yn Glwb. Erbyn hyn codwyd llwyfan fechan yn y festri, a cherddai Twm Edwards ymlaen ac yn ôl ar honno fel petai newydd benderfynu setlo holl broblemau'r gwledydd ar unwaith ac am byth. Ef ei hun a gymerai ran y tad yn y ddrama. Awdur, cyfarwyddwr, actor—yr oedd ef yn ŵr prysur a phwysig.
Eisteddodd y ddau actor i lawr i wylio rhan gyntaf y chwarae. Uchelgais y cyfarwyddwr oedd cael pawb i gerdded yn urdd- asol fel ieir, tynnu ystumiau â'u hwynebau, a gwneuthur defnydd helaeth o'u dwylo. "Och, y mae'r storom hon yn tanseilio'r holl fyd heno, Siôn," oedd sylw'r fam ar ryfyg y daran, a chredai William Jones fod Mrs. Leyshon, a actiai'r hen wraig, yn bur naturiol ac effeithiol ei ffordd. Ni hoffai'r gair "tanseilio"—na'r gair "storom," o ran hynny—ond yr oedd angen ymadroddion felly mewn drama, efallai. Barn y cyfarwyddwr oedd bod yn rhaid i Mrs. Leyshon anelu at rywbeth mwy "dramatig" o lawer—"Och" fel petai hi ar lewygu, "storom" fel petai hi'n sôn am y Diafol ei hun,