"tanseilio" gan gymryd arni ysgwyd y cread yn ei dwylo, ac yna "Siôn" â dagrau yn ei llais wrth iddi syrthio'n swp yn ôl i'w chadair ger y tân. Rhoddai hyn gyfle—"dramatig" eto—i'w gŵr groesi ati i'w chysuro ac yna i godi ei olwg i'r nef a mynegi'r farn mai "yng ngwaetha'r storom gref" y gwelir Ef ar ei orau. Treuliwyd llawer o amser yn trin ac ail—drin yr olygfa hon, ac âi Mrs. Leyshon druan yn fwy nerfus—ac annaturiol—bob tro. Ni fedrai Twm yn ei fyw gael digon o arswyd yn y gair "storom."
"Nawr 'ta'," meddai. "Meddyliwch am storm, storm fawr, storm felltigedig." ("Yffarn o storm" a ddywedai Shinc). "Reit. 'Nawr, rhowch gant o stormydd felly 'da'i gilydd—gwynt, glaw, mellt, trana'—a 'na chi, w!"
"Os ydi Twm yn credu y medar o wneud cant o blismyn allan ohona' i," sibrydodd Crad, "mae o'n gwneud coblyno gamgymeriad."
Gan na chyrhaeddwyd canol y ddrama'r noson honno, ni bu galw am y siopwr na'r plisman, a throes y ddau tuag adref yn llawen ond yn pryderu tipyn am y dyfodol. Ac yn y tŷ Thoes Crad, wrth bwnio'r tân neu gludo plât i'r bwrdd neu estyn tamaid i Fot, efelychiad perffaith o ystumiau amlycaf Twm Edwards.
"Gad imi dy weld din actio'r plisman, Crad," meddai William Jones wrtho ar ôl swper.
"Yn fy ffordd i ne' yn null Twm?" gofynnodd yntau.
"Yn null y cyfarwyddwr, wrth gwrs."
"Reit. Tyd allan hefo mi, Wili John."
Camodd Crad yn awdurdodol i mewn drwy ddrws y gegin, gan gydio'n ffyrnig yn ysgwydd Wili John ac edrych arno fel petai am ei lyncu'n fyw. Yna gwthiodd y bachgen o'i flaen, a safodd yn y drws â'i draed ar led a'i freichiau ymhleth, yn ymgorfforiad chwyrn o'r Ddeddf ar ei llymaf. Yr oedd Wili John ac Eleri yn eu dyblau.
"Yr ydw i am dynnu coes yr hen Dwm nos 'fory, William," meddai ar ddiwedd y perfformiad.
"Sut, Crad?"
"Mi actia' i'r plisman felna o ran hwyl."
"Na, gwell iti beidio, ne' mi fydd yn meddwl dy fod ti'n chwerthin am ben y ddrama, weldi."
"Gora'n byd. Mae arna' i isio cael fy nhroi allan o'r Seiat."
"O'r Seiat?"