Tudalen:William-Jones.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Grêt, w," oedd barn y cyfarwyddwr eto. "Ac 'ych chi, Mrs. Lishon, yn llefan dicyn yn well 'nawr. Y plisman dicyn yn felodramatig 'falla', dim ond shêd bach, wrth gwrs. Ond Crad bachan, pwy 'wetws wrthot ti na allet ti ddim acto? Bachan, bachan!"

Yr oedd Crad yn huawdl ar y ffordd adref. Os peth fel'na oedd drama....! Nid âi ef ar gyfyl y lle eto.

"Pryd y deudodd o yr oedd y practis nesa', William?"

"Nos Wenar. Chwech o'r gloch."

"Fydd y bôi yma ddim yno."

"Ond beth am Meri?"

"Hi fydd yn fy stopio i."

"Y?"

"Mi gei di weld."

Nos Wener a ddaeth. Cawsai Crad byliau go gas o golli anadl a phesychu yn ystod y dydd, ond bu bron iddo â mygu ar ôl te. Dug ffisig y meddyg beth esmwythyd, ond yr oedd hi'n amlwg fod y pwl hwn yn un gwaeth nag arfer.

"Fydda' ddim yn well imi aros adra hefo fo yn lle mynd i'r practis 'na, Meri?" oedd cwestiwn pryderus William Jones. Clywodd Crad, a gwylltiodd.

"Dydi rhyw dipyn o beswch ddim yn mynd i 'nghadw i o'r practis," meddai. "Fi ydi'r actor gora' yno, medda Twm."

"Ond 'fedri di ddim mynd heno, Crad," atebodd ei wraig.

"Medra' i, medra'!" A chododd i ymbaratoi. Ond gafaelodd yr aflwydd ynddo eto, a bu'n rhaid iddo fodloni ar suddo'n ôl i'w gadair wrth y tân. Teimlai William Jones yn drist o'i weld, er y ceisiai beidio â dangos hynny. Piti, ynté? Ond pan droes Meri ei chefn, gwthiodd Crad ei dafod allan arno a chrychu ei drwyn. Yna cofiodd.

"Rho'r llyfr drama 'na'n ôl i Twm, William," meddai'r claf yn wan. "Tasa' peth fel hyn yn digwydd yn ystod y perfformiad, weldi, mi faswn yn sbwylio'r pwdin i gyd."

"Ia, dyna fyddai ora', 'falla'," oedd barn Meri.

"Piti hefyd," ochneidiodd yr actor siomedig. "Roedd Twm yn dweud ... Ond dyna fo. 'Does dim help."

Yr oedd hi'n wir ddrwg gan y cyfarwyddwr golli ei "stâr tyrn," chwedl yntau, ond rhaid oedd plygu i'r drefn. A gwyddai fod Isaac Jones, un o'r blaenoriaid, yn dyheu am ran yn y ddrama, a chan ei fod ef, fel Crad, yr un faint â'r plis- man lleol, yr oedd popeth yn iawn. Wrth gwrs, bachan go