haerllug ac uchel ei sŵn oedd Isaac, a byddai angen ffrwyno tipyn arno rhag ofn iddo droi'r plisman yn destun chwerthin, ond gofalai ef, Twm, am hynny. Ac nid bob dydd y câi rhywun gyfle i roi blaenor yn ei le, w.
Ni chafodd William Jones gystal blas ar "Gyflog Pechod" ag a gawsai ar y Messiah. Âi i bob ymarfer yn selog a phrydlon, dysgodd ei ychydig linellau'n gydwybodol, a gwnaeth ymdrech deg i ymddangos yn siopwr wynebgaled a didrugaredd ac i fod yn glochydd eiddgar i'r person rhuadwy, y plisman. Ond teimlai'n eiddigus o Grad, a fwynhâi fygyn diog gartref wrth y tân.
Ni hoffai Jack Bowen, "Dic" y ddrama, o gwbl. Credai mai rhyw swagrwr gwag oedd y bachgen, ac enciliai'n ofnus oddi wrtho ef a'i sŵn. Gwisgai'n rhodresgar—dillad ac esgidiau brown, hosanau lliwiog iawn, siaced wlân felen, felen, crys gwyrdd, tei o liw gwin, ac yr oedd hi'n amlwg y talai sylw defosiynol i'r tonnau yn ei wallt. Gweithiai, am gyflog bach, fel clerc yn swyddfa'r Cyngor, ond ymddangosai bob amser fel petai'n fab i berchennog y chwarel—patrwm y Gogleddwr o uchelwr. Ond yr oedd yn Gymro da ac, ym marn William Jones, yn actor gwych. Gwastreffid rhyw chwarter awr o bob ymarfer mewn dadl rhyngddo ef a'r cyfarwyddwr—Jack yn haeru mai naturioldeb, nid "hen gamocs," oedd yn bwysig, a Thwm yn ei ddarbwyllo'n addfwyn trwy gyhoeddi ar uchaf ei lais iddo actio mewn dramâu cyn i ryw grwt fel ef, Jack Bowen, ddysgu siarad. Cerddai William Jones adref gyda Jack ar ddiwedd un o'r nosweithiau ystormus hyn.
"Beth ych chi'n feddwl o'r fusnas, Northman?" "Northman" y galwai Jack Bowen ef bob amser.
"Pa fusnas, dywad?"
"Syniad y Twm Edwards 'na o acto."
"Wel, i ddeud y gwir, er na wn i ddim byd am betha' fel hyn, weldi, yr ydw i'n meddwl mai chdi sy'n iawn."
"Odych chi, wir? Dewch miwn am funud." Aent heibio i'w dŷ.
"Na, dim diolch. Wedi ... wedi addo mynd adra'n syth.
Crad ... Crad ddim hannar da."
"Dim ond am wincad." A chydiodd y llanc ym mraich y chwarelwr.
Gan y gwelai hwynt yn y capel bob Sul, adwaenai dad a