Tudalen:William-Jones.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mam a chwaer Jack yn bur dda, a mawr fu'r croeso a gafodd. "Dim ond galw am funud," meddai pan gyrhaeddodd y gegin. Am funud? Nonsens, yr oedd yn rhaid iddo aros am "ddish- gled o de" gyda hwy. Y swper yn barod, dim ond arllwys dŵr i'r tebot. Haws fyddai i gamel ... ac ufuddhaoda William Jones.

Dyn mawr, llywaeth, oedd Huw Bowen, y tad, ac un go debyg iddo oedd y ferch, ond yr oedd Sarah Bowen, fel Jack, yn bur wahanol iddynt. Gwraig denau, eiddgar, ormesol ei hegni. Yr oedd hi'n hynod groesawgar, ond wrth iddi estyn y bara-ymenyn neu'r caws iddo, teimlai dan orfodaeth i'w ddifa ar frys gwyllt. Bwytawr bychan a phwyllog oedd ef, a lled-ofnai yr edrychai Sarah Bowen ar ei berfformiad fel anfri ar ei chroeso llethol. Treuliodd fwy na hanner yr amser yn gwrthod, mor foesgar ag y medrai, chwaneg o hyn a chwaneg o'r llall, a chydag ochenaid gudd o ryddhad y diolchodd am yr hawl i danio'i bibell ar ddiwedd y pryd. Dynes ffeind. Ffeind iawn. Rhy ffeind.

Prin y deuai gair o enau Huw Bowen, ond nodiai a gwenai'n bur aml i roi ei fendith ar sylwadau ei wraig a'i fab. Treuliai ef rai dyddiau yn ei wely bron bob wythnos, gan fod rhyw wendid ar ei frest, ond darllen nofelau Saesneg cyffrous a wnâi y rhan fwyaf o'r amser er pan gaewyd y pwll. Dywedai Crad nad oedd dim ar frest y dyn, ond y meiddiai, ambell fore, ar ôl codi, feddwl drosto'i hun a mynegi ei farn ar rywbeth; a chyn gynted ag y gwnâi ef hynny, codai ei wraig ei dwylo mewn braw a'i yrru ef yn ôl i'r llofft. "Does dim rhaid i'r hen Huw ond dechra' meddwl, wsti," oedd sylw Crad, "nad ydi Sarah yn 'i fwndlo fo'n ôl i'w wely." Ond braidd yn angharedig oedd barn Crad weithiau—"Mr. a Mrs. Sarah Bowen" y galwai ef y ddau hyn.

Brysiodd Jac i'r parlwr a dychwelodd â llawysgrif yn ei law.

"Hwn on i am i chi weld," meddai. "Ma'r sort o beth wy' i'n feddwl wrth ddrama."

"O? Pwy sgwennodd hon, Jack?"

"Fi."

Eglurodd yr awdur ifanc beth oedd y prif ddigwyddiadau ynddi—hanes llofruddiad rhyw ŵr cyfoethog—ac yna darllenodd dudalen neu ddwy. Brawddegau cynnil, cwtá, brathog, cyfarthiadau gwn.

"Slic, ontefa?" gofynnodd.