"Ia, wir, fachgan, llithrig dros ben."
"Nid fel y brawddege' 'na sy 'da Twm Edwards. 'Nawr, beth ych chi'n feddwl ohoni hi?"
Safai'r fam gerllaw, yn rhyfeddu at athrylith ei mab. Hynny, efallai, a wnaeth feddwl William Jones braidd yn feirniadol. Drama slic. Slic iawn. Rhy slic. Fel ei hawdur a'r lol a oedd yn perthyn iddo.
"Wir, Jack, 'wn i ddim byd am y petha' 'ma, fachgan, dim o gwbwl, ond mae 'na un peth yn taro i'm meddwl i..."
"Ia?"
"Dydi pobol ddim yn siarad fel y rhai sy gan Twm Edwards yn 'i ddrama. Maen' nhw'n drwm ac ara' deg, yn annaturiol o hen-ffasiwn. Dyna ydw i'n feddwl, beth bynnag. Ac mi ddeudis i hynny wrth Twm un noson ar ein ffordd adra o'r practis. Ond 'wnâi o ddim gwrando arna' i."
"Te wetsoch chi wrtho fa!" Swniai Mrs. Bowen yn anhygoel, ac edrychodd y tad a'r ferch yr un mor frawychus arno.
"Do. Pam?"
"Wel! ... "Tybiai William Jones fod y De yn bur hoff o'r gair "Wel!", tair llythyren yn cynnwys cyfrolau huawdl. Wrth gwrs, eglurodd y wraig, gwyddent fod Jack yn fyrbwyll o feirniadol ym mhob practis, ond fel actor y siaradai ef, ac wedi'r cwbl, yr oedd ganddo hawl i hynny ar ôl disgyblaeth o dan Mr. Stephens yn yr Ysgol Ganolraddol. Ond beirniadu'r ddrama ei hun yng nghlyw'r awdur croen-denau!
Wel!
Cofiodd y chwarelwr un o sylwadau doeth Crad. "Tact ydi enw canol y Sowthman, 'yldi," meddai un diwrnod ar yr heol. Newydd gyfarfod Shinc y tu allan i'r Clwb yr oeddynt. "Yffarn dân!" oedd ebychiad hwnnw. "Twm 'di sgwennu drama! Yffarn dân!" A'r munud nesaf ymunodd y dramaydd ei hun â hwy. "Wy'n deall bod ti'n cal hwyl ar ddrama fach sha'r capel 'na," meddai Shinc wrtho. Ac ymchwyddodd Twm, gan deimlo'n dra diolchgar i Grad a William Jones am oleuo meddwl eu cyfaill digapel.
"Be' 'wetws a wrthoch chi?" gofynnodd Jac.
"O, dim llawar o ddim. 'Roedd o'n defnyddio lot o ryw eiria' Saesneg nad oeddwn i'n 'u dallt nhw."
"Ond gwedwch, beth ych chi'n feddwl o hon sy 'da fi?
Yn onest, 'nawr."