Tudalen:William-Jones.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wn i ddim byd am y petha' 'ma, fel y deudis i, ond ..."

"Ia?"

"Wel, pobol sy mewn drama, yntê? Ac os pobol, pobol amdani, yntê?"

Nodiodd Jack yn ddeallus, gan nad oedd y gwirionedd yn ddigon eglur i'w amau.

"Hynny ydi, pobol naturiol," chwanegodd William Jones.

"Mi ofynnis i i Twm pryd y mae'r petha' yn 'i ddrama fo'n digwydd. 'Hiddiw,' medda' fynta'. 'Ond mae'r bobol yn siarad fel yr oeddan nhw gan mlynedd yn ôl," medda' finna'."

"Odyn', odyn'. 'Ych chi'n reit."

"Yn ara' deg a hen-ffasiwn a phregethwrol."

"Itha' gwir, w. 'S neb yn siarad fel na 'eddi'. A beth ôch chi'n mynd i 'weud am hon?" Daliai ei gampwaith ei hun yn ei law.

"Dyna on i am ddeud—nad ydi pobol ddim yn llusgo siarad a defnyddio geiria' mawr fel cymeriada' Twm, ond nad ydyn nhw ddim yn cyfarth ar 'i gilydd chwaith fel y bobol sy gen' ti, Jack."

"Ond play of situation sy 'da fi. Action play, thriller, ingenuity of plot, chi'n deall."

Tybiodd William Jones ei bod hi'n bryd iddo droi adref, rhag ofn, ac yntau yng ngafael yr huodledd hwn, iddo fynegi'r farn y gallai Wili John unrhyw fore ar gefn ei feic greu hanner dwsin o sefyllfaoedd tebyg. Cofiodd eto nad oedd Crad yn hanner da.

"Yr oeddwn i yn llygad fy lle y noson o'r blaen, 'ngwas i," oedd sylw'r gŵr hwnnw yn y tŷ pan glywodd yr hanes.

"Hefo be?"

"Ynglŷn â'r Sowthman a'r tact sy'n perthyn iddo fo. Dyna 'ti Sarah Bowen, mam y Jack Q.P. 'na, chwedl yr hogia' 'ma. Marcia di 'ngair i, William, fe fydd hi'n canmol Twm Edwards a'i ddrama fel coblyn yn 'i wynab o. Dyna iti wendid mawr y bobol i lawr yma, a mi gei enghraifft ohono fo bob dydd."

"Falla', wir, fachgan, ond maen nhw'n credu mai hynny sy ora', weldi."

At y drafodaeth fawr a gawsent, yn nhŷ David ac Idris Morgan un noson, y cyfeiriai Crad. Y gwahaniaeth rhwng y Gogleddwr a'r Deheuwr oedd y testun, ac wedi iddynt benderfynu bod pobl y Gogledd yn feirdd ac athronwyr a diwinyddion i gyd, a phobl y De oll yn gerddorion ac actorion a