Tudalen:William-Jones.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwaraewyr Rygbi digymar, aethant i chwilio am wendidau. Casgliad terfynol y ddau Sowthman oedd mai gŵr drwgdybus oedd y Gogleddwr, a thybiai'r ddau arall mai un di-hîd oedd Shoni. Yna traethodd Crad ei farn am y peth a alwai'r byd yn "tact," ac wrth ennill gwres a huodledd, aeth cyn belled â chyhuddo pob copa walltog yn y cwm—ond David ac Idris Morgan—o fod yn 'Shoni-bob-ochor.' Efallai mai Wili John, a ddaeth i alw'i dad a'i ewythr at eu swper, a lefarodd eiriau doethineb. Yr oedd y gwahaniaeth rhwng Northman a Sowthman yn amlwg ddigon, meddai ef—un yn gwisgo bresus a'r llall yn gwisgo belt. Un yn ei gwman braidd, a'i olwg tua'r llawr, a'r llall yn sgwario'i ysgwyddau a tharo'i fawd yn ei felt. Bresus a belt—yr oedd y peth yn syml iawn. Llithrai'r dyddiau heibio'n gyflymach yn awr. Llafuriai William Jones mewn clwt o dir ar y llethr yn ystod y dydd, a chadwai'r capel a'r ddrama ef yn brysur gyda'r nos. Ar enw Crad—fel aelod swyddogol o Glwb y Di-waith yr oedd yr alotment, ond ei frawd yng nghyfraith a weithiai ynddi. Yr unig anfantais oedd y digwyddai'r darn tir fod wrth ochr un Twm Edwards, a syniad y gŵr hwnnw am balu, lawer bore, oedd rhoi ei bwys ar ei raw i draethu'n anghelfydd ar gelfyddyd y ddrama. "Mi faswn i'n rhoi rhawiad o bridd yn 'i gego, William," oedd awgrym Crad un canol dydd. Ond nid oes unrhyw dystiolaeth iddo ddilyn y cyfarwyddyd.

Oedasom yn rhy hir yn barod ymhlith helyntion dramaol William Jones, ac ni fanylwn ychwaneg. Digon yw dywedyd iddo, ar noson y perfformiad, gofio'i linellau bob un, rhoi cam ymlaen a dau gam i'r dde yn y lle priodol, a gwneud i'w wyneb caredig a diniwed ymddangos mor chwyrn a dideimlad ag yr oedd modd. Troesai'n ystyfnig yn yr ymarfer terfynol y noswaith gynt. Syniad y cyfarwyddwr o siopwr oedd gør yn gwisgo sbats, cadwyn loyw ar draws ei wasgod, coler big, barf, a sbectol. Cytunodd William Jones i ymddangos felly, ond nogiodd ar bwnc y farf. Adwaenai ef filoedd o siopwyr —-wel, ddegau, beth bynnag—ac nid oedd un ohonynt yn farfog. Bu'n rhaid i'r cyfarwyddwr siomedig, ar ôl ysbeidiau o gerdded yn ôl ac ymlaen yn bur ddramatig, fodloni ar ddarlun anghyf- lawn o ŵr y Royal Stores. Felly, chwedl Crad, y collodd y Ddrama Gymraeg locsyn. Ond gallai ei fforddio, meddai ef.

Cawsant lythyr llon oddi wrth Arfon yn niwedd Mawrth. Gadawsai Slough, meddai, i weithio yn Llundain, mewn cronfa