Tudalen:William-Jones.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

recordiau'n perthyn i'r un cwmni. Go anniddorol oedd y gwaith-pacio recordiau a chyfeirio'r parseli i bob rhan o'r byd—ond daethai o hyd i lety heb ei ail, a châi gyfle yn awr i fynd i gapel Cymraeg yn rheolaidd. Yr oedd wrth ei fodd ; ond caent yr hanes i gyd pan ddeuai adref dros y Pasg. Aeth Crad a William Jones i gyfarfod y trên nos Wener y Groglith, a gwyddent ar unwaith fod y llanc yn llawer hapusach nag y buasai pan welsant ef ddiwethaf. Ac wrth ei swper, adroddodd ei stori.

Gan na hoffai ei lety na'i waith yn Slough, neidiodd at y cynnig i symud i Lundain, yn arbennig gan y golygai hynny goron o godiad yn ei gyflog. Penderfynodd dreulio prynhawn a hwyr y Sadwrn dilynol yn chwilio am lety yn y brifddinas.

Diflas iawn fu'r prynhawn. Wedi prynu tri phapur newydd, aeth trwy'r hysbysebau ynddynt yn ofalus, ac yna i ffwrdd ag ef mewn bws ac ar droed i alw yn y tai mwyaf tebygol. Ond siomedig fu'r ymchwil: ni ddarganfu un yr hoffai ymgartrefu ynddo. Ar ôl teirawr o ruthro yma a thraw, troes yn finedig i dỹ-bwyta am gwpanaid o de, ac yno dechreuodd wneud rhestr o'r cyfeiriadau na chawsai amser i alw ynddynt. Cododd y gŵr a eisteddai gyferbyn ag ef wrth y bwrdd, ond cyn troi ymaith i'w ffordd, gwyrodd tuag at y llanc a dywedyd, "Why don't you try the Y.M.? It's just over the road, first right.” Diolchodd Arfon iddo, a phenderfynodd fynd i'r lle ar unwaith.

Croesodd y ffordd tua'r adeilad hardd ar gongl yr heol gyntaf ar y dde. Safodd gerllaw am funud i wylio'r gwŷr ifainc ysgafndroed a âi i mewn ac allan drwy'r drws, a gwelodd fagad ohonynt yn dychwelyd ar ôl bod yn chwarae pêl droed yn rhywle. A gâi ef lety yn y plas hwn, tybed ? Dringodd y grisiau'n bryderus, a dywedodd ei neges wrth y Porthor ac yna wrth yr Ysgrifennydd. Cafodd groeso a chydymdeimlad, ond gwyddai ar unwaith pan soniwyd am brisiau'r llety na allai ef fforddio byw yno. "Half a minute," meddai'r Ysgrifennydd pan droai Arfon ymaith. "Take this list with you.” Rhestr o leoedd tebyg i'r Y.M., ond eu bod yn rhatach, ydoedd hi, a chychwynnodd Arfon eilwaith ar ei deithiau ymchwil, er ei bod hi'n dechrau tywyllu. Wedi dwyawr arall o grwydro a holi, safodd yn ddigalon gerllaw'r lle nesaf ar y rhestr. "The Young Scots Club," meddai'r pamffledyn