Tudalen:William-Jones.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei law, a phrin yr oedd hi'n werth iddo alw yno. Nid oedd ef yn Ysgotyn-gwaetha'r modd, chwanegodd yn ei flinder chwerw.

Syllodd ar yr adeilad—tri thị anferth wedi'u huno. Yr oedd yno le i dros gant, yn sicr, a theimlai Arfon yn eiddigus wrth y llanciau a welai'n ysgrifennu neu ddarllen mewn ystafell fawr gyferbyn ag ef ac wrth y lleill a chwaraeai bing- pong yn y nesaf. Canai bachgen tua'r un oed ag ef yn un o'r llofftydd wrth wisgo ar gyfer dawns neu rywbeth. Yr oedd calon Arfon fel plwm o'i fewn. Y tu ôl iddo, dafliad carreg i ffwrdd, llifai sôn a goleuadau ar hyd heol lydan; o'i gwmpas, ystryd unig a gwag; o'i flaen, cynhesrwydd a chysur y Clwb i'r gwŷr ifainc o'r Alban. Pam nad oedd Clwb tebyg i Gymry ifainc mewn lleoedd fel Slough a Llundain? Crynodd yn unigrwydd oer yr heol, a chwarddodd awel ym mrigau noethion y goeden enfawr y safai dani. Yn naear y gerddi tros y ffordd i'r Clwb y gwreiddiai'r goeden, ac fe'i dychmygai Arfon ei hun, ambell hwyr o haf, yn eistedd i ddarllen ar un o feinciau'r gerddi hynny, a thwrf Llundain fel rhu trai ymhell. Daeth y glaw yn gawod sydyn.

Ymh'le y cysgodai? Rhuthrodd ar draws yr ystryd i borth y Clwb. Trwy wydr y drws mewnol gwelai gyntedd eang, ysgwâr, ac yn ei gongl dde safai gŵr ifanc yn darllen rhyw hysbysiadau ar y mur. Pan ddigwyddodd edrych tua'r drws a chanfod Arfon y tu allan, brysiodd i agor iddo. Daliodd y drws yn agored, a synnodd yn fawr wrth weld y llanc, y tybiai ef ei fod yn aelod o'r Clwb, yn dal i sefyllian y tu allan.

"Aren't you coming in?" gofynnodd.

"No, I'm ... I'm just sheltering from the rain."

"Oh, sorry! I thought I'd seen you about the Club.

But come and shelter inside. It's cold out here in the porch."

Dywedai ei acen gref mai Ysgotyn ydoedd.

"Thanks. Till the rain stops.

Aethant drwy'r cyntedd i ystafell y ping-pong.

"Care for a game ?" gofynnodd y gŵr ifanc. Yr oedd y ddau chwaraewr newydd roi'r gorau iddi.

"I wouldn't mind. I used to play a lot at home."

Enillodd yr Ysgotyn y gêm gyntaf, Arfon yr ail, a bu'n rhaid cael trydedd i dorri'r ddadl. Erbyn hynny yr oeddynt yn weddol hy ar ei gilydd, a hoffai Arfon ei gyfaill newydd yn fawr. Yn araf ac anfodlon y rhoes ei gôt amdano i gychwyn yn ôl