Tudalen:William-Jones.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nhawelwch y wal, teimlai'n anniddig iawn. I beth y mae gwraig yn dda os na fedr hi gychwyn dyn at ei waith ?—dyna gwestiwn Now Portar. "Neb fel Mrs. Owen acw am ddeffro yn y bora," meddai Tom Owen, y Stiward. "Fel cloc," meddai Bob Gruffydd am ei wraig. Trawodd ddau gŷn yn ei boced, a chododd oddi ar y blocyn.

"Mi bicia' i draw i'r efail am funud," meddai. ""Fydd Sac y Go" ddim chwinciad yn rhoi min ar y cynion 'ma imi."

Ymhell cyn iddo gyrraedd yr efail, clywai chwerthin dwfn Sac y Gof fel taranau mewn ogof. Ni chredai neb, heb ei glywed â'i glustiau ei hunan, fod yn bosibl i'r fath ddyfnderoedd o sŵn ddianc drwy'r genau dynol. Yr oedd Saceus yn gawr o ddyn llydan, tew, a chrynai trwch ar drwch o gnawd trosto i gyd bob tro y chwarddai. Safai yn awr wrth yr eingion yn gwrando ar un o storïau Dic Trombôn.

"Dyma iti un arall, Sac," meddai Dic, gan nodio tuag at William Jones. "Wyth o'r gloch arno fo'n dŵad at 'i waith bora 'ma. Wedi bod ar 'i sbri neithiwr, wsti, a mynd adra wedi'i dal hi! O, glywist ti'r stori honno am y bôi hwnnw o'r enw Jac Sir Fôn yn Chwaral y Coed?"

"Naddo, am wn i."

"Wel, mae gynnyn' nhw weiar rôp yn hongian o dop Chwaral y Coed i'r gwaelod, fel y gwyddost ti, a'r pwcedi mawr hynny yn cario rwbel i lawr hyd-ddi. 'Roedd hi ar fin canu pump, fachgan, un nos Wenar, a dyma Jac yn neidio i mewn i un o'r pwcedi i gael reid i'r gwaelod er mwyn i gwadnu hi adra i Sir Fôn. Diawl, pan oedd y bwcad hannar y ffordd i lawr, dyma'r corn yn canu!" Daeth pwl o chwerthin dros Dic a methai fynd ymlaen â'i stori. Edrychodd llygaid mawr Sac yn hurt arno: ni welsai ef eto ddim byd anarferol o ddigrif.

""Wel?" meddai Sac, braidd yn sarrug.

"Fe stopiodd y weiar rôp, a dyna lle'r oedd yr hen gono yn y bwcad i fyny yn yr awyr yn trio tynnu sylw'r dynion yn y chwaral." Y tro hwn dechreuodd y plygiadau o gnawd ar gorff Sac y Gof gynhyrfu ac ysgwyd, ac agorodd ei enau anferth i ryddhau sŵn fel rhuadau tarw. Diawch, dyna rai rhyfedd oedd yn yr hen fyd 'ma, meddai William Jones wrtho'i hun ac wrth fegin fawr yr efail.

"Be' ddigwyddodd iddo fo, Dic?" gofynnodd Sac wedi i'w gnawd a'i lais ymdawelu am ennyd.