Tudalen:William-Jones.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddifater a chwibanu uwch y gorchwyl, braidd yn floesg y swniai yntau pan ddywedai rywbeth wrth ei ewythr. A'r noson honno, yn ei wely, datguddiodd y gyfrinach fod ganddo ef a Gomer Rees, bachgen Shinc, gynllun i gymryd meddiant Nymbar Wan a gweithio'r pwll yn well ganmil nag y gwnaed erioed o'r blaen. A châi Wncwl William le fel is-reolwr arno.

Yr oedd yn well gan William Jones fynd tua'r orsaf wrtho'i hunan bach, meddai ef, pan ddaeth amser cychwyn am y trên. Ymddangosai'n daer iawn ar y pwnc, a bu raid i Grad ac Eleri a'r lleill ildio. Y lleill? Daethai bagad ynghyd—Twm Edwards, Shinc, David ac Idris Morgan, Simon Jenkins y saer, Ned Andrews tros y ffordd, a Mrs. Leyshon, y fam yn y ddrama. Pam goblyn na ddaethai'r côr i gyd a holl bobl y capel i'w hebrwng? gofynnodd i Grad mewn sibrwd ffyrnig

Wedi ysgwyd llaw â phawb yn o frysiog, rhoi cusan a swlltyn i Eleri, ac anwylo Mot am y tro olaf, i ffwrdd â'i goesau yn fân ac yn fuan wrth ochr y fasged wellt. Ond araf deg fu ei hynt drwy'r pentref. Gwelai rywun a adwaenai byth a beunydd, rhywun o'r côr neu o'r capel neu o Glwb y Di-waith, a rhaid oedd ymdroi ennyd i ganu'n iach. Erbyn iddo gyrraedd gwaelod Bryn Glo, deuai'r frawddeg, "Wedi cael fy ngwaith yn ôl yn y chwaral, wchi." yn beiriannol o'i enau.

"Gwaith!" meddai Huw Bowen yn ei ffordd araf, ddryslyd. "Beth yw 'wnnw, bachan?" Buasai Huw druan yn segur ers tua saith mlynedd bellach, gan iddo ddigwydd gweithio yn y darn o'r Pwll Bach a gaewyd gyntaf oll.

Cyrhaeddodd yr orsaf o'r diwedd, a safodd yno am funud i syllu ar y pentref ac i fyny'r cwm. Gwenodd wrth gofio'r golwg cyntaf a gawsai ar y lle, ryw naw mis cyn hynny, a'r dychryn a ddaethai i'w feddwl wrth iddo syllu ar y strydoedd llwydion yn hongian wrth eu dannedd ar noethni'r llethrau. Wrth gwrs, twll o le oedd Bryn Glo, "pen draw'r byd," chwedl Bob Gruffydd, ac fe fyddai hi'n braf cael dychwelyd i awyr iach a thawelwch Llan-y-graig. A rhyw greaduriaid powld a swnllyd a oedd i lawr yn y Sowth 'ma, pobl fel ... fel .. wel, ugeinia' o'r tacla'. Gwelai rywun yn gwthio beic i fyny'r heol a ddringai tua Nelson Street. Wili John, efallai? Hen fôi bach iawn oedd Wili John... Dacw ddau ddyn yn sgwrsio ar gong! Nelson Street... Crad a Shinc? Un da oedd yr hen Grad! Chwarddodd William Jones yn dawel