Tudalen:William-Jones.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth gofio'r ystumiau a dynasai Crad fel plisman yn nrama Twm. Hen fôi iawn oedd Shinc hefyd, o ran hynny, ond ei fod e'n yfed tipyn ac wedi berwi'i ben hefo daliadau'r Comiwnyddion... Hylô, dacw rywun yn ymuno â'r ddau... David Morgan, efallai? Neu Mr. Rogers? Gwelsai'r gweinidog y noson gynt, ond go drwsgl oedd ei ymgais i ddiolch iddo am ei bregethau a'i gyfeillgarwch. Piti na fuasai wedi medru ei fynegi ei hun yn well, ond dyna fo... Ci oedd 'nacw wrth ymyl y tri? Ia. Mot, tybed? Pob parch i gŵn o frid, wrth gwrs, ond mwngrel amdani bob tro, mwngrel hefo tri blewyn yn y ddafaden o dan ei ên. Un blewyn, a dyna i chi gi cas, yn chwyrnu ar bawb. Dau flewyn—ci go lew. Tri blewyn—dyna'r ci! Fel Mot... Daria unwaith, fe gollai'r trên oni frysiai i godi tocyn.

Eisteddai dau ŵr dadleugar yng nghongl y swyddfa—dicedi.

"A rat leavin' a sinkin' ship, mun!" meddai un ohonynt rhwng ei ddannedd.

"Ay, but ..." Tawsant i syllu ar y gŵr â'r fasged, a chredodd William Jones am funud mai amdano ef y siaradent. Rhoes ei fasged i lawr, a thynnodd ei bwrs allan o boced-gefn ei drowsus.

"Ay, but 'e's a good player, mind," oedd dadl yr ail ddyn.

"Wasn't Bryn Glo good enough for 'im when things were goin' well 'ere?. Uh?"

"Ay, but ..."

"And didn't we teach 'im all 'e knows 'bout Rugby? Uh?"

"Ay, but ..."

"And so now we 'aven't got no money for tidy away fixtures, whass 'e do?"

"Ay, I know, but ..."

"Scoots off to play for that team down Cardiff."

"Ay, but ..."

"A rat leavin' a sinkin' ship, Dai!"

Ymbalfalai bysedd William Jones yn ansicr yn ei bwrs.

"Yes?" meddai llais y clerc o'r twll ysgwâr yn y mur.

"Well, I.. I... It's all right, thank you."

A chyda'i bwrs yn un llaw a'i fasged wellt yn y llall, brysiodd ymaith drwy'r drws ac yn ôl i'r heol.