"Pwy Crad?"
"Y bwbach 'na oedd hefo ni yn y trên."
"Twt, paid â chymryd sylw ohono fo."
Aethant i mewn i siop Marks and Spencer, ac anghofiodd Crad ei ddicter wrth roi barn ar hyn a'r llall ar y cownteri.
Prynodd William Jones declyn i blicio tatws, yn anrheg i Feri. Troesant wedyn i mewn i Woolworth's, a theimlai'r chwarelwr fel plentyn mewn siop deganau. Gwariodd chwe cheiniog ar gyllell i Wili John a chwe cheiniog arall ar bwrs bach glas i Eleri, ac yna cofiodd fod arno eisiau rhywbeth i ladd malwod yn yr ardd. Wedi iddo brynu blwch o dabledi anffaeledig ar gyfer y gwaith hwnnw, "Be arall sy arno' ni isio, Crad?" gofynnodd.
"Dim byd."
"Oedd Meri ddim yn sôn bod arni isio sosban, dywad?"
"Gwranda, William. Os wyt ti'n meddwl fy mod i'n mynd i gario sosban i'r B.B.C. 'na. ... Dacw fo eto! Y nefoedd, mae o'n dewach nag oedd o yn y trên!"
"Be' am gael te yma, Crad?"
"Reit."
Ar ôl tê crwydrasant heibio i'r castell ("Dim patch ar gastall Caernarfon" oedd barn William Jones amdano) ac yna drwy erddi tua'r Amgueddfa. Trawodd y cloc mawr uwch Neuadd y Ddinas hanner awr wedi pedwar.
"Mi awn ni i mewn i'r Miwsïam am dipyn, Crad."
Daria, yr oedd yn rhaid iddo roi diwrnod i Wili John ac Eleri yng Nghaerdydd, meddai wrtho'i hun pan aeth i mewn i neuadd urddasol yr Amgueddfa. Gallai fforddio hynny, er bod ei arian yn o brin bellach. Taflai ffenestri'r gromen fawr yn y to ryw olau tyner, rhudd, tros farmor mur a llawr, a chamodd William Jones ar flaenau'i draed fel petai mewn rhyw deml sanctaidd iawn. Syllodd y ddau yn hir ar "Hogyn y Tabwrdd," y cerflun pres o waith Syr Goscombe John, ac yna i ffwrdd â hwy i fyny'r grisiau ar y dde.
"Y Corn Hirlais," meddai William Jones wrth ymyl y cas ar ben y grisiau. Llefarai fel un ag awdurdod ganddo, er mai "Hirlas" oedd y gair.
I mewn â hwy i oriel hardd.
"Ydi'r fedal sy gin ti yma William?" oedd cwestiwn Crad wrth iddynt fynd heibio i gas o fedalau a fathwyd mewn gwahanol ryfeloedd.