"Ydi, fachgan. Dyma hi."
Yr oedd yn yr oriel lawer piano hen o wahanol rannau o Gymru, gwisgoedd Cymreig o bob math, darluniau o hen dai a hen beiriannau, certi ac offer amaethyddol, ac amryfal bethau yn ddarluniau byw ynddynt eu hunain o fywyd cymdeithasol Cymru.
"Roedd fy nhad yn cofio gorfod gwisgo hwn, William," meddai Crad.
"Be'?"
"Welsh Not. Am siarad Cymraeg yn yr ysgol."
Ym mhen draw'r oriel safai coits hen-ffasiwn.
"Wyddost ti be' wnawn ni, William?"
"Be'?"
"Llusgo'r goits 'ma allan i'r ffordd a llogi dau ddyn i'w thynnu hi ffwl-sbîd at y B.B.C. Inni gael cyrradd mewn steil, wyt ti'n dallt. "Caradog Wilias a William Jones newydd gyrradd o'r ddeunawfed ganrif, bobol'."
Troesant i mewn i weld ystafelloedd y ffermdy Cymreig- cegin, llaethdy, parlwr, ac ystafell wely.
"Pwy fasa'n meddwl, yntê, Crad?"
"Meddwl be?"
"I bod hi'n bosib' creu llun fel hwn o gegin ffarm. Pwy ddaru osod y petha' yma wrth 'i gilydd, tybad?"
"Wn i ddim, wir, fachgan. Ond mae o'n dipyn o fôi, pwy bynnag ydi o."
"Be' ydi'r cregin mawr 'na sy ar y silff ben tân, dywad?"
"Does gin i'r un syniad, William."
"On nhw'n defnyddio rheina i alw'r gweision o'r caea' at 'u bwyd," meddai rhyw ddyn bach tew a ddigwyddai sefyll gerllaw. Credodd William Jones am ennyd mai llais Shinc a glywai, ond yr oedd y gŵr hwn yn dew a golwg llewyrchus arno. Daliai ddau lyfr o dan ei fraich a gwisgai sbectol â'i ffrâm o gorn du. Athro mewn ysgol neu goleg, efallai.
"Be' mae'r ysgub 'na o ŷd yn wneud yn hongian yn y to?" gofynnodd iddo.
"O, 'y gaseg fedi' yw hon'na. Yn yr hen amser 'on nhw'n arfer cal seremoni ar ddiwedd y cynhaea' ac wedi'ny yn gwneud caseg fedi o'r ysgub ola' a'i hongian hi ar un o drawstia'r to."
"Rhyw deimlad rhyfadd ydach chi'n gael wrth sefyll yma, yntê?" sylwodd William Jones wrtho.
"Shwd 'ych chi'n feddwl?"